Nid yw rheolwr Caernarfon wedi colli’r un gêm ers iddo gychwyn gwneud y swydd nôl ym mis Tachwedd.

Ond fe fydd record gampus Sean Eardley yn gwegian heno wrth i Gaernarfon groesawu pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru i’r Oval.

Y Seintiau Newydd yw gwrthwynebwyr y Cofis ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.

Fe drechodd Caernarfon un arall o dimau Uwch Gynghrair Cymru yn y drydedd rownd, pan guro nhw’r Barri 2-0 ar yr Oval. Yn ôl rhai roedd 1,200 yno yn gwylio.

Ond fe  fydd yr her heno yn anoddach fyth wrth iddyn nhw wynebu deiliaid y cwpan a’r tîm sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru.

“Bydd torf fawr eto heno a gobeithio bydd hi’n noson gofiadwy arall ar yr Oval,” meddai Sean Eardley. “Mae hi’n mynd i fod yn dipyn o noson dan y llifoleuadau. Gobeithio bydd y Cofi Army yn llawn canu a gyda lwc byddwn ni’n creu crin dipyn o sioc.”

Mae Caernarfon wedi chwarae 17 o gemau heb golli yng nghynghrair yr Huws Gray Alliance.

Fe guron nhw’r Fflint oddi cartref wythnos ddiwethaf o 2-1 i ymestyn chwe phwynt uwchlaw pawb arall ar frig y gynghrair.

Ond colli 2-0 oedd hanes y Cofis pan wnaethon nhw herio’r Seintiau Newydd yng nghwpan Nathaniel MG yn gynharach y tymor hwn.