Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA.

Cawson nhw eu tynnu o’r het gan gyn-chwaraewr Gweriniaeth Tsiec, Vladimir Smicer, yn Lausanne yn y Swistir fore heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 24).

Awstria, Rwsia a Slofacia oedd y timau yn yr un pot – sy’n golygu na fydden nhw wedi gallu eu herio nhw.

Nod y gystadleuaeth yw lleihau nifer y gemau cyfeillgar sy’n cael eu cynnal, gan roi mwy o statws i gemau rhwng timau o’r un cyfandir. Bydd pedwar grŵp i gyd yn y gynghrair, a phedair cynghrair i gyd.

Mae’r cynghreiriau wedi’u penderfynu ar sail rhestr detholion UEFA.

Sut mae’r gystadleuaeth yn gweithio?

Bydd timau’n cael eu dyrchafu neu eu gostwng ar sail canlyniadau, a bydd y canlyniadau’n cael eu cofnodi ochr yn ochr â gemau i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop a Chwpan y Byd.

Bydd y timau’n chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith – gartref ac oddi cartref, a’r gemau i gyd yn cael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni.

Bydd y gemau sy’n cyfri tuag at Bencampwriaeth Ewrop yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2019.

Ar ôl i’r gemau yn y grŵp ddod i ben, fe fydd rownd gyn-derfynol a rownd derfynol. Ar drothwy’r gystadleuaeth nesaf, fe fydd timau’n cael eu dyrchafu neu eu gostwng cyn y gystadleuaeth nesaf.

Bydd y timau hynny yng Nghynghrair B sy’n aflwyddiannus wrth fynd am le ym Mhencampwriaeth Ewro 2020 yn cael chwarae mewn gemau ail gyfle er mwyn cystadlu am un lle.

Bydd y canlyniadau’n cyfri’ am ddwy flynedd, a’r enillwyr yn cael eu coroni bob dwy flynedd yn y blynyddoedd sy’n gorffen ag odrif.

Gan y bydd y timau’n chwarae yn erbyn timau o’r un cyfandir, fe fydd lle o hyd yn y calendr i gemau rhwng timau o wahanol gyfandiroedd cyn Cwpan y Byd.