Gêm a allai gynnig sioc yng Nghwpan Cymru y penwythnos hwn ydi honno ar Gae’r Castell, pan fydd Y Fflint o gynghrair undebol Huws Gray yn croesawu’r Drenewydd o’r Uwch Gynghrair.

Mae’r Fflint wedi cael tymor rhwystredig hyd yma, gydag apwyntiad Andy Holden dechrau’r tymor yn fethiant a chyn- reolwr y Rhyl, Niall McGuinness, yn cymryd yr awenau ym fis Tachwedd.

Ond fe allai’r ffaith eu bod nhw’n chwarae gartref bnawn Sadwrn (Ionawr 27) fynd o’u plaid.

“Dw i’n edrych ymlaen at y gêm, meddai Niall McGuinness wrth golwg360.

“Dw i’n deall bod y Drenewydd gynghrair uwch ein pennau ni ond, efo ni’n chwarae gartref ac yn chwarae ar wair, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus a mynd amdani.

“Dw i’n nabod Chris Hughes, eu rheolwr, yn dda, a bydd wedi gwneud ei waith cartref… ond efo fy mhrofiad i o reoli’r Rhyl yn yr Uwch Gynghrair, dw i’n gwybod digon amdanyn nhw.

“Oedd colli Shane Sutton a Jason Oswell yn ergyd i’r clwb, ond mae Alex Fletcher yn ôl ac mae o’’n chwaraewr dawnus.”

Y Drenewydd

Mae’r Drenewydd wedi cael blas o fod mewn rownd derfynol yn 2015, Ac er bod Y Seintiau Newydd yn rhy gryf iddyn nhw ar y diwrnod ac wedi’u curo nhw 2-0, mae’r rheolwr Chris Hughes wedi ennill y gwpan pan yn rhan o dîm hyfforddi Prestatyn yn 2013 ar y Cae Ras.

“Rydan ni’n disgwyl gêm anodd dydd Sadwrn,” meddai Chris Hughes wrth golwg360. “Mae’r fantais o fod gartref gan Fflint,ac mi fyddan nhw’n hyderus, ond mi fyddan ni wedi paratoi hefyd ac yn barod amdanyn nhw.

“Rydan ni wedi cael cyfnod prysur yn ddiweddar, ond wedi cael toriad wythnos diwethaf, felly mi fydd pawb yn ffres. Mae’r clwb a fi fy hun wedi cael blas o fod mewn ffeinal, felly mae hyn yn gyfle arall i’r clwb,

“Y nod bob tymor ydi aros yn yr Uwch Gynghrair, felly bonws ydi Cwpan Cymru, ond os wnawn ni ennill dydd Sadwrn, mi fyddwn ni yn yr wyth ola’. Ar ein dydd, mi fedrwn ni guro unrhywun.”