Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n cael gwybod heddiw pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng nghystadleuaeth newydd UEFA, Cynghrair y Cenhedloedd.
Y nod yw lleihau nifer y gemau cyfeillgar sy’n cael eu cynnal, gan roi mwy o statws i gemau rhwng timau o’r un cyfandir.
Mae Cymru ym mhot 1 yng Nghynghrair B, a byddan nhw’n wynebu dau dîm arall yn eu grŵp. Bydd pedwar grŵp i gyd yn y gynghrair, a phedair cynghrair i gyd.
Fe allen nhw wynebu un ai Sweden, yr Wcráin, Gweriniaeth Iwerddon neu Bosnia Herzegovina o Bot 2, a Gogledd Iwerddon, Denmarc, Gweriniaeth Tsiec neu Dwrci o Bot 3.
Mae’r cynghreiriau wedi’u penderfynu ar sail rhestr detholion UEFA.
Sut mae’r gystadleuaeth yn gweithio?
Bydd timau’n cael eu dyrchafu neu eu gostwng ar sail canlyniadau, a bydd y canlyniadau’n cael eu cofnodi ochr yn ochr â gemau i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop a Chwpan y Byd.
Bydd y timau’n chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith – gartref ac oddi cartref, a’r gemau i gyd yn cael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni.
Bydd y gemau sy’n cyfri tuag at Bencampwriaeth Ewrop yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2019.
Ar ôl i’r gemau yn y grŵp ddod i ben, fe fydd rownd gyn-derfynol a rownd derfynol. Ar drothwy’r gystadleuaeth nesaf, fe fydd timau’n cael eu dyrchafu neu eu gostwng cyn y gystadleuaeth nesaf.
Bydd y timau hynny yng Nghynghrair B sy’n aflwyddiannus wrth fynd am le ym Mhencampwriaeth Ewro 2020 yn cael chwarae mewn gemau ail gyfle er mwyn cystadlu am un lle.
Bydd y canlyniadau’n cyfri am ddwy flynedd, a’r enillwyr yn cael eu coroni bob dwy flynedd yn y blynyddoedd sy’n gorffen ag odrif.
Gan y bydd y timau’n chwarae yn erbyn timau o’r un cyfandir, fe fydd lle o hyd yn y calendr i gemau rhwng timau o wahanol gyfandiroedd cyn Cwpan y Byd.