Mae gemau Cwpan Cymru yn eu holau y penwythnos hwn, gydag 16 o dimau’n brwydro i fynd drwodd i’r wyth olaf.

Mae Cei Connah ar hyn o bryd yn yr ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn sicr yn ffefrynnau dros y tîm o’r Traeth sy’n seithfed yng nghynghrair undebol Huws Gray.

Mae amddiffynnwr ifanc Cei Connah, Jake Phillips yn derbyn mai nhw ydi’r ffefrynnau, ond mae’n dweud y byddan nhw’n wyliadwrus iawn o hogiau’r Traeth.

“Mi fydd yn anodd dal y Seintiau Newydd yn y gynghrair, felly mae Cwpan Cymru yn rhoi cyfle i ni ennill tlws y tymor hwn,” meddai wrth golwg360.

“Y targed ydi gorffen ddigon uchel yn y gynghrair i gael lle yn Ewrop y tymor nesaf, ac efo’r fantais o fod adre dydd Sadwrn yn erbyn tîm sydd gynghrair oddi tanon ni, mi fydd ein rheolwr, Andy Morrison, wedi gwneud ei waith cartref.

“Mi fydd wedi’u gwylio nhw ambell waith a chyfleu i ni fel unigolion pwy di pwy… rydan ni’n cyfarfod nos Fawrth ac mi gawn ni’r wybodaeth i gyd…

“Dydan ni ddim wedi chwarae ers pythefnos,” meddai Jake Phillips, “felly does gynnon ni ddim syniad pwy fydd y tîm ddydd Sadwrn, oherwydd mae gêm arall ganddon ni y dydd Iau wedyn yn erbyn Y Bala.

”Yn amlwg, mae pawb am fod yn ffres, ac anafiadau pawb wedi clirio ond, biasau yn gallu bod yn araf yn cychwyn oherwydd y toriad.”

Porthmadog

Mae golwr Port, Richard Harvey, 35, wedi treulio dau gyfnod gyda’r clwb. Mi chwaraeodd ei gêm gyntaf yn 17 oed yn 1999 ac ail ymuno â’r clwb yn 2005, ac ers dychwelyd mae wedi bod yn wyth olaf Cwpan Cymru ddwywaith.

“Roeddan ni’n chwarae Caerfyrddin oddi cartref yn nhymor 2006/7 ac mi aethon ni allan ar ôl ciciau o’r smotyn, oedd yn siomedig,” meddai wrth golwg360.

“Ond yn nhymor 2013/14, mi aethon ni allan oddi cartref i Dreffynnon, oedd ar y pryd gynghrair oddi tanon ni, ond mi oeddan ni ar rediad gwych, oedd gynnon ni siawns dda o gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

“Hwnnw oedd fy amser isaf efo’r clwb, mi gawson ni gyfleoedd ar ddiwedd y gêm… ond dyna fo, doedd o ddim i fod.”

Gêm gorfforol

Mae Porthmadog yn gwybod mai Cei Connah fydd y ffefrynnau ddydd Sadwrn – maen nhw’n dîm, ac mi fydd hi’n gêm gorfforol. Ond mae’r gêm hefyd yn gyfle i Port roi ysgrifennu ei enw eto ar y map pêl-droed.

Mae carfan Porthmadog yn cynnwys Sion Bradley, Julian Williams a Joe Chaplin – tri sy’n gwybod lle mae’r gôl.