Abertawe 1–0 Lerpwl                                                                       

Sgoriodd Alfie Mawson unig gôl y gêm wrth i Abertawe guro Lerpwl ar y Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Lun.

Rhwydodd yr amddiffynnwr canol bum munud cyn yr egwyl ac fe brofodd hynny’n ddigon wrth iddo ef a gweddill yr Elyrch amddiffyn yn arwrol am naw deg munud.

Roedd Mo Salah eisoes wedi gwastraffu cyfle da i roi Lerpwl ar y blaen cyn i Mawson rwydo i’r tîm cartref, yn troi ac ergydio yn y cwrt cosbi wedi peniad amddiffynnol gwael Virgil van Djik.

Treuliodd Abertawe rannau helaeth o’r ail hanner yn amddiffyn yn eu cwrt cosbi eu hunain ond roedd Lukasz Fabianski yn effro i atal cic rydd Salah ac yna cynnig yr eilydd, Danny Ings.

Cafodd y Cochion gyfle euraidd i achub pwynt yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm hefyd ond peniodd Roberto Firmino yn erbyn y postyn cyn i Mawson roi ei gorff yn y ffordd i atal Adam Lallana.

Mae tîm Carlos Carvalhal yn aros ar waelod yr Uwch Gynghrair er gwaethaf yfuddugoliaeth ond gwahaniaeth goliau yn unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a West Brom yn y pedwerydd safle ar bymtheg.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Olsson, Dyer (Carroll 64’), Fer, Ki Sung-yueng, Clucas, Ayew (Bony 79’)

Gôl: Mawson 40’

.

Lerpwl

Tîm: Karius, Gomez, Matip, van Dijk, Robertson, Can, Wijnaldum (Ings 73’), Salah, Oxlade-Chamberlain (Lallana 68’), Mane, Firmino

Cardiau Melyn: Robertson 44’, Matip 45’

.

Torf: 2,886