Mae Abertawe allan o Gwpan yr FA ar ôl i’w hamddiffynnwr Alan Tate sgorio yn erbyn ei dîm ei hun ddau funud cyn diwedd y gêm.

Fe roddodd camgymeriad Tate fuddugoliaeth 2-1 i Leyton Orient, ar ôl i’r sgôr fod yn gyfartal 1-1 ers hanner amser.

Roedd peniad gan Jimmy Smith wedi rhoi Orient ar y blaen ar ôl 35 munud, ond llwyddodd Cedric Van der Gun i unioni’r sgôr fel roedd y chwiban yn cael ei chwythu ar hanner amser.

Croesiad gan Paul-Jose M-Poke a arweiniodd at gamgymeriad Tate, wrth iddo ddargyfeirio’r bêl i’w gôl ei hun, a thrwy hynny chwalu gobeithion yr Elyrch i fynd trwodd i’r rownd nesaf.