Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs o’r farn y gall e helpu Gareth Bale i wella’i ffitrwydd.

Mae seren Cymru a Real Madrid wedi cael nifer o anafiadau i’w goes y tymor hwn, sy’n golygu ei fod e wedi dechrau dim ond chwe gêm i’w glwb yn La Liga.

Doedd e ddim ar gael ychwaith ar gyfer dwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd olaf Cymru.

Wrth iddo yntau ddioddef o anafiadau wrth dynnu tua’r diwedd, fe wnaeth Ryan Giggs droi at ioga i geisio ymestyn ei yrfa y tu hwnt i’w ben-blwydd yn 40 oed.

Dywedodd: “Mae’n fater o drosglwyddo’r wybodaeth gawsoch chi’n chwaraewr.

“Mae gyda fi dipyn o hynny, yn amlwg – y gwahanol bethau y dewch chi ar eu traws nhw.

“Felly mae’n bosib y bydd yn destun sgwrs oherwydd mae pawb eisiau i Gareth Bale fod yn ffit, a phawb eisiau tîm cenedlaethol Cymru ffit fel bod modd dewis eich chwaraewyr gorau.”

 

Cynghrair Cenhedloedd UEFA

Fe fydd Cymru’n darganfod ddydd Mercher pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer Cynghrair Cenhedloedd UEFA.

Mae Cymru ymhlith detholion Cynghrair B, ac mae’n bosib y byddan nhw’n wynebu Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon pan ddaw’r enwau o’r het yn y Swistir.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ym mis Medi, gan roi’r cyfle i Ryan Giggs arwain y tîm mewn gêm gystadleuol am y tro cyntaf – ond fe fydd yn dechrau ar ei waith fis Mawrth yng Nghwpan China.