Gall tîm pêl-droed Abertawe aros yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf hyd yn oed os nad ydyn nhw’n arwyddo’r un chwaraewr newydd ym mis Ionawr, yn ôl y rheolwr Carlos Carvalhal.

Mae’r Elyrch ar waelod y tabl ar hyn o bryd, ac mae her fawr o’u blaenau nos Lun wrth iddyn nhw groesawu Lerpwl i Stadiwm Liberty, wythnosau’n unig ar ôl cael crasfa ganddyn nhw o 5-0 yn Anfield.

Serch hynny, dim ond unwaith maen nhw wedi colli mewn pum gêm ers i’r rheolwr o Bortiwgal ddisodli Paul Clement, a gafodd ei ddiswyddo ddiwedd y llynedd.

Mae’r Cochion, ar y llaw arall, yn ddi-guro mewn 18 o gemau a newydd ddod â rhediad di-guro Manchester City i ben.

‘100% yn sicr’

Dywedodd Carlos Carvalhal ar drothwy’r gêm fawr: “Dw i’n 100% yn sicr y gllwn ni aros i fyny heb arwyddo unrhyw un.

 

“Fy ngwaith i yw gwthio pawb. Os yw pethau’n dal i ddatblygu ac os gallwn ni wella’r chwaraewyr sydd wedi anafu, gallwn ni adeiladu ffydd ac ymrwymiad, ac ymladd tan y diwedd.”

Mae’r Elyrch yn mynd i mewn i’r gêm nos Lun ar ôl curo Wolves yng Nghwpan FA Lloegr, ac roedd arwyddion yn ystod y gêm honno, meddai’r rheolwr, fod modd aros yn yr Uwch Gynghrair.

“Pan ydyn ni’n ffres ac os ydyn ni’n chwarae fel hynny am 90 munud, bydd hi’n anodd i unrhyw wrthwynebydd ein curo ni.

“Cael a chael oedd ein tair gêm yn y gynghrair – yn erbyn Watford, Tottenham a Newcastle – ac ry’n ni’n parhau i chwarae ar y lefel yna ac mae’r arwyddion yn bositif.”

Rhwystredigaeth

Er bod nifer o chwaraewyr Abertawe’n cael eu beirniadu’n gyson, mae Carlos Carvalhal yn dweud ei fod yn fodlon ar ei garfan fel ag y mae – ac mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r garfan bresennol wneud y tro.

Mae lle i gredu bod yr asgellwr o Ajax, Amin Younes wedi gwrthod y cynnig i ddod i Abertawe.

Ond mae lle i gredu bod trafodaethau’n parhau i geisio denu’r blaenwyr Kevin Gameiro a Nicolas Gaitan o Atletico Madrid, a chyn-ymosodwr yr Elyrch, Andrew Ayew yn ei ôl o West Ham – a hynny i ymuno â’i frawd Jordan.

Fe fyddai arwyddo unrhyw nifer o’r tri yn cryfhau’r garfan wrth i Wilfried Bony barhau i wella o nifer o anafiadau sydd wedi ei weld yn ei chael hi’n anodd canfod ei ffitrwydd y tymor hwn.

Wilfried Bony

 

Ychwanegodd Carlos Carvalhal: “Mae Jordan yn brwydro ac yn chwaraewr tîm da, ond mae ganddo fe safon a dyna dw i’n ei hoffi mewn chwaraewyr.

“Mae Wilfried wedi cymryd rhan yn y tair gêm ddiwethaf ac mae e wrthi’n ceisio cyrraedd y lefel ry’n ni ei eisiau ganddo fe.

“Ond dyw e ddim wedi chwarae ryw lawer ac mae’n well gen fod chwaraewr o’r fath yn cael effaith ar gêm, hyd yn oed os yw hynny am ddim ond 30 munud.

“Os yw e’n chwarae 90 munud pan nad yw e’n ffit, gall chwaraewyr golli hyder a gall y tîm golli gemau hefyd.

“Rhaid i fi fod yn ofalus ynghylch sut dw i’n ei reoli fe. Os yw e’n cael effaith, fe fydd e’n magu hyder. Rhaid iddo fe dyfu yn y modd yna.”