Abertawe 2–1 Wolves                                                                      

Mae Abertawe ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA ar ôl curo Wolves ar yr ail gynnig nos Fercher.

Wedi gêm ddi sgôr yn Wolverhampton wythnos a hanner yn ôl, cafwyd perfformiad gwell gan yr Elyrch yn yr ail chwarae ar y Liberty wrth iddynt drechu’r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth yn nhrydedd rownd y Cwpan.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi un munud ar ddeg gyda gôl unigol wych, Jordan Ayew’n canfod cornel isaf y rhwyd ar ôl curo llu o amddiffynwyr mewn rhediad arbennig i’r cwrt cosbi.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Wolves yn gyfartal hanner ffordd trwy’r ail hanner, Diogo Jota’n rhwydo wedi pas hir o’r cefn gwta ddau funud wedi dod i’r cae fel eilydd.

Tri munud yn unig yr arhosodd hi felly serch hynny cyn i Wilfired Bony adfer mantais yr Elyrch, yn manteisio ar gamgymeriad amddiffynnol yn y cwrt cosbi i rwydo a rhoi ei dîm yn y rownd nesaf.

Taith i Meadow Lane i wynebu Notts County o’r Ail Adran fydd gwobr Abertawe yn y bedwaredd rownd.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, Mawson, Fernandez, Naughton, Carroll, Mesa (Ki Sung-yueng 73’), Narsingh (Dyer 73’), Fer, Ayew, Bony (Clucas 79’)

Goliau: Ayew 11’,Bony 69’

Cerdyn Melyn: Fer 47’

.

Wolves

Tîm: Norris, Miranda, Batth, Hause, Doherty, Gibbs-White, N’Diaye, Douglas, Costa (Saiss 73’), Mir Vicente (Bonatini 64’), Enobakhare (Jota 64’)

Gôl: Jota 66’

Cardiau Melyn: N’Diaye 34’, Douglas 72’, Saiss 90’

.

Torf: 8,294