Mae aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn bwysicach na mynd am Gwpan Lloegr i reolwr Abertawe, Carlos Carvalhal.

Bydd ei dîm yn herio Wolves mewn gêm ail gynnig yn y gwpan yn Stadiwm Liberty, a hynny wrth iddyn nhw barhau i frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Gorffennodd y gêm gyntaf yn gyfartal ddi-sgôr.

Mae’r gemau yn y gwpan yn golygu bod gan yr Elyrch chwe gêm ym mis Ionawr yn hytrach na’r pedair gêm gynghrair oedd wedi’u hamserlennu’n wreiddiol.

Ac maen nhw ar waelod y gynghrair o hyd, bedwar pwynt o’r safleoedd diogel.

Mae disgwyl i rai o’r prif chwaraewyr gael eu hepgor heno, wrth i’r rheolwr o Bortiwgal baratoi ar gyfer gêm fawr yn y gynghrair yn erbyn Lerpwl nos Lun.

“Ein prif gystadleuaeth yw’r Uwch Gynghrair,” meddai Carlos Carvalhal. “R’yn ni’n parchu’r gwpan, ry’n ni’n parchu Wolves ond mae angen i ni gynnwys chwaraewyr sy’n dychwelyd ar ôl anafiadau, rhaid i ni weld y chwaraewyr hyn a rhoi cyfle iddyn nhw chwarae, felly mae’n naturiol y bydda i’n gwneud newidiadau nos Fercher.”

Y timau

Serch hynny, mae amheuon am ffitrwydd yr amddiffynnwr canol wrth gefn, Mike van der Hoorn ar ôl iddo anafu cyhyr yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Newcastle ddydd Sadwrn.

Fe fydd e’n cael prawf ffitrwydd heno cyn y gêm.

Mae amddiffynnwr Wolves, Danny Batth yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad, ond bydd y Saeson heb Ruben Vinagre, sydd wedi’i wahardd.

Fe fydd yn her i’r Elyrch heno wrth iddyn nhw geisio trechu’r tîm sydd â mantais o ddeg pwynt ar frig y Bencampwriaeth.

Maen nhw’n ddiguro mewn 14 o gemau, a’r golwr John Ruddy wedi osgoi ildio gôl mewn 15 o gemau.