Mae Bangor yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru ar hyn o bryd – a bonws mawr ydi perfformiadau gwr ifanc  o Abergele.

Mae Guto Williams, 17, wedi torri mewn i’r tîm cyntaf yn ddiweddar ac wedi creu argraff gyda’i berfformiadau aeddfed yng nghanol yr amddiffyn.

Mae’r llanc o Ysgol y Creuddyn yn ei flwyddyn olaf yn astudio Addysg Gorfforol, Bioleg a’r Fagloriaeth Gymraeg.

“Mi wnes i ymuno ag Academi Bangor yn 2014 o Academi Llandudno, lle’r o’n i wedi bod ers sawl blwyddyn,” meddai wrth golwg360. “Mi wnes i dderbyn y cynnig, mi oedd o’n gynnig na fedrwn i ddim ei wrthod.

“Pan wnes i ymuno efo Bangor yn 2014, ro’n i’n chwarae i’r tîm dan-16, blwyddyn yn hŷn na fy oed fy hun. Yn ystod y tymor 2016/17, o’n i’n chwarae i’r tîm o dan-19 yn y gynghrair ‘Welsh Premier Development North’, ac yn ddigon ffodus i fod yn aelod o dîm gwych a enillodd y gynghrair ddwy flynedd yn olynol…”

Y tim cyntaf

Ar ddechrau’r tymor hwn, prif uchelgais Guto Williams oedd arwyddo cytundeb efo’r tîm cyntaf Bangor – ac fe ddigwyddodd hynny ddiwedd Awst. Erbyn Medi 15, roedd o ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn Cei Connah a gafodd ei gohirio oherwydd diffyg goleuadau.

Ar Hydref 3, fe chwaraeodd Guto Williams ei gêm gyntaf i’r tim yn erbyn Cei Connah yng Nghwpan Cymru.

“Dw i’n hapus efo fy mherfformiadau yn yr Uwch Gynghrair hyd yn hyn,” meddai. “Y prif wahaniaeth i mi ydi cyflymder y gêm a’r ochr gorfforol, fel y cryfder.

“Y prif beth sydd yn rhaid ei wneud wrth chwarae i’r safon yma ydi canolbwyntio gant y cant am y 90 munud neu fwy… dydi hi ddim yn bosib colli’r canolbwyntio yna am yr un eiliad, neu fe gewch chi eich cosbi.

“Dw i’n mwynhau chwarae fel canolwr cefn neu yng nghanol y cae,” meddai Guto Williams wedyn, “oherwydd dw i’n hoff iawn o chwarae’r amrywiaeth o basio sy’n bosib.”

Cefnogaeth ac uchelgais

Y tymor diwethaf, fe gafodd Ian Dawes ei ddiswyddo o fod yn rheolwr, ac fe gymrodd y cyn-chwaraewr yn Uwch Gynghrair Lloegr, Gary Taylor-Fletcher, yr awenau tan ddiwedd y tymor, cyn i Kevin Nicholson gymryd drosodd.

“Mae Gary Taylor-Fletcher, Kevin Nicholson a’r tîm rheoli yn y clwb wedi bod yn hynod o gefnogol wrth i mi wneud y cam i fyny sydd wedi ei wneud ychydig yn haws i mi,” meddai Guto Williams.

“Dw i’n mwynhau bob eiliad o’r cyfle rwyf yn ei gael, mae’n brofiad gwych.

“Yn amlwg, gyda Bangor, ein huchelgais am weddill y tymor ydi gorffen mor agos i frig y gynghrair ag sy’n bosib er mwyn sicrhau lle yn Ewrop ar gyfer y flwyddyn nesa’.

“Fy uchelgeisiau personol ydi dal i chwarae i’r safon orau bosib i Fangor a hefyd cynrychioli’r tîm academi dan-18 Cymru yn Iwerddon ym mis Chwefror a Gibraltar ym mis Mai, hefyd rwyf eisiau cynrychioli’r tîm Ysgolion Cymru sydd yn chwarae yn erbyn timau ysgolion Lloegr,Iwerddon,Yr Alban a Gogledd Iwerddon.”