Mansfield 1–4 Caerdydd                                                                 

Bydd Caerdydd yn wynebu Man City  ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Mansfield ar yr ail gynnig yn y drydedd rownd nos Fawrth.

Wedi gêm ddi sgôr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddeg diwrnod yn ôl bu rhaid i’r ddau dîm wynebu ei gilydd eto ar Field Mill, gyda’r ymwelwyr o Gymru’n fuddugol diolch i dair gôl ail hanner.

Mansfield a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ond fe aeth Caerdydd ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi 34 munud pan rwydodd Bruno Ecuele Manga.

Munud yn unig a barodd y fantais cyn i’r tîm o’r Ail Adran unioni pethau’n haeddiannol gyda gôl Danny Rose.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ac aethant â’r gêm o afael Mansfield gyda dwy gôl mewn pum munud hanner ffordd trwy’r ail hanner, y gyntaf i Junior Hoilett a’r ail i Anthony Pilkington.

Ail Hoilett a phedwaredd yr Adar Gleision a oedd gôl orau’r noson, hanner foli daclus o bum llath ar hugain funud o ddiwedd y naw deg.

Gwobr Caerdydd fydd gêm gartref yn erbyn y tîm sydd ddeuddeg pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Lloegr, Man City, wythnos i ddydd Sul.

.

Mansfield

Tîm: Logan, White, Bennett, Pearce, Benning, Anderson (Potter 79’), Mellis, Byrom (Angol 74’), Hamilton, MacDonald, Rose

Gôl: Rose 35’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Richards, Ecuele Manga, Morrison, Bennett, Paterson, Ralls (Halford 74’), Pilkington, Damour, Hoilett (Healey 90+4’), Zohore (Bogle 85’)

Goliau: Ecuele Manga 34’, Hoilett 66’, 89’, Pilkington 71’

Cardiau Melyn: Hoilett 25’, Bennett 58’ Paterson 61’, Morrison 64’

.

Torf: 5,746