Llwyddodd gôl hwyr gan Jay Harris i sicrhau buddugoliaeth oddi cartref i Wrecsam ym Mansfield.
Roedd Wrecsam wedi dechrau’n dda wrth i Mathias Pogba sgorio’r gôl gyntaf, cyn i Louis Briscoe unioni’r sgôr i Mansfield.
Fe lwyddodd Tyrone Thompson i roi Mansfield ar y blaen wedyn, tan i Andy Morrell benio’r bêl i’r rhwyd a sgorio ail gôl Wrecsam.
Yna, gan ergydio 25 llath i ffwrdd, llwyddodd Harris i sicrhau’r bumed fuddugoliaeth yn olynol i’r Dreigiau.