Mae cyn-golwr timau pêl-droed Lerpwl a Tranmere, Tommy Lawrence wedi marw yn 77 oed.

Daeth y newyddion drwy law Clwb Pêl-droed Lerpwl, ac yntau’n aelod o dîm hanesyddol Bill Shankly a enillodd y Gynghrair ddwy waith a Chwpan FA Lloegr unwaith rhwng 1962 a 1971.

Câi ei adnabod wrth ei ffugenw, ‘The Flying Pig’ am ei fod mor ystwyth er ei fod o gorffolaeth fawr.

Enillodd dri chap dros yr Alban hefyd.

Gyrfa

Aeth yn broffesiynol gyda Lerpwl yn 1957, ac yntau’n 17 oed ar y pryd, ac fe fu’n rhaid iddo aros am bum mlynedd cyn chwarae i’r tîm cyntaf.

Methodd e bedair gêm yn unig mewn chwe thymor rhwng 1963 a 1969.

Roedd e yn y gôl ar gyfer pob gêm pan enillodd Lerpwl y gynghrair yn 1965-66, ddwy flynedd ar ôl ennill yr un tlws.

Rhwng y ddwy fuddugoliaeth yn y gynghrair, roedd yn aelod o’r tîm a gododd Gwpan FA Lloegr – y tro cyntaf yn hanes y clwb iddyn nhw ei ennill.

Ond fe gollodd ei le yn y tîm yn dilyn dyfodiad Ray Clemence i’r clwb, ac fe adawodd am Tranmere yn 1971, gan fynd ymlaen i chwarae mewn 80 o gemau.

O’r fan honno, aeth i chwarae i dîm Chorley cyn gweithio mewn ffatri yn Warrington.

Teyrnged gan Lerpwl

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Clwb Pêl-droed Lerpwl eu bod yn “drist” o glywed am farwolaeth Tommy Lawrence.

“Mae meddyliau pawb yn y clwb gyda theulu a ffrindiau Tommy yn y cyfnod trist hwn.”

Ychwanegodd Clwb Pêl-droed Tranmere ar eu tudalen Twitter eu bod yn anfon eu “cydymdeimlad dwysaf” at ei deulu a’i ffrindiau.