“Teimladau cymysg” sydd gan un o gefnogwyr Stoke yn dilyn diswyddiad y rheolwr o Gymru, Mark Hughes.

Daeth y newyddion nos Sadwrn ei fod wedi colli ei swydd ar ôl i’w dîm golli o 2-1 yn erbyn Coventry yng Nghwpan FA Lloegr – canlyniad sydd yn golygu eu bod wedi colli chwech allan o’u wyth gêm ddiwethaf.

“Ochenaid o ryddhad” oedd ymateb Dilwyn Roberts-Young pan glywodd y newyddion, ond mae’n cyfaddef fod yna “gyfle i gofio’r amseroedd da” hefyd.

Mae’n dweud wrth golwg360 y bydd Mark Hughes yn cael ei gofio yn Stadiwm Bet365 am “greu ysbryd Stokolona” drwy recriwtio chwaraewyr fel Bojan Krkic, Xherdan Shaqiri a Marko Arnautovic.

“Rhaid cofio i ni orffen yn y nawfed safle am dri thymor yn olynol heb wario nemor ddim,” meddai. “Ond pan oedd y giaffar yn gwario, doedd y gwario hwnnw ddim bob amser yn wario doeth.”

‘Arwyddo Joe Allen yn donic’

Un o uchafbwyntiau pedair blynedd a hanner Mark Hughes wrth y llyw, yn ôl Dilwyn Roberts-Young, oedd arwyddo chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen.

Ond tra bod denu’r Cymro i ganolbarth Lloegr “yn donic”, doedd ambell drosglwyddiad arall ddim mor llwyddiannus.

“Roedd arwyddo Saido Berahino o West Brom am £12 miliwn a Gianelli Imbula am dros £18 miliwn yn gamau gwag tu hwnt.”

Ond nid y geiniog oedd diwedd y gân, ond yn hytrach y canlyniadau ar y cae, wrth i Stoke lwyddo i ennill dim ond 11 gêm allan o ddeugain yn 2017, gan ildio 47 o goliau y tymor hwn yn unig.

“Roedd yn wyrthiol bod ‘Sparky’ dal yn ei swydd cyhyd,” meddai.

 

Argymhellion Dilwyn… cyn-chwaraewr Aberystwyth?

Byddai Dilwyn Roberts-Young yn barod i groesawu dau enw sydd wedi’u cysylltu â’r swydd – rheolwr Gweriniaeth Iwerddon, Martin O’Neill a’i gynorthwy-ydd, Roy Keane.

“Cafodd y ddau’r gorau ar Gymru yn ddiweddar, a hynny’n ddigon didrafferth,” meddai.

Ond mae hefyd yn awgrymu un rheolwr a dreuliodd gyfnod yn chwarae i Aberystwyth yn 1999-2000.

Ac yntau wedi’i benodi’n rheolwr ar Gaerlŷr fis Mawrth y llynedd, enillodd Craig Shakespeare ei bedair gêm gyntaf wrth y llyw, ac fe arweiniodd ei berfformiadau at gynnig y swydd yn barhaol iddo.

Ond cafodd ei ddiswyddo ddechrau’r tymor hwn ar ôl dechrau siomedig.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young: “Fe wnaeth Craig Shakespeare wyrthiau yn y tymor byr i Gaerlŷr y tymor diwethaf!”