Fydd Clwb Pêl-droed Abertawe ddim yn troi at Bortiwgal i ddod o hyd i chwaraewyr newydd yn ystod y ffenest drosgwlyddo fis Ionawr.

Prynu ymosodwr newydd fydd blaenoriaeth y rheolwr Carlos Carvalhal, a hynny ar ôl diffyg goliau yn hanner cynta’r tymor ar ôl colli Gylfi Sigurdsson i Everton a Fernando Llorente i Spurs dros yr haf.

13 gôl yn unig mae’r Elyrch wedi’u sgorio mewn 22 gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn – ac fe sgoriodd Sigurdsson naw gôl ar ei ben ei hun y tymor diwethaf.

‘Rhy ddrud’

Ond yn ôl Carlos Carvalhal, y rheolwr o Bortiwgal, byddai ymosodwyr o’i famwlad yn rhy ddrud i glwb fel Abertawe.

Dywedodd: “Fe welais i yn y wasg fod Nuno [Santo, rheolwr Wolves] wedi talu £18 miliwn am Ruben Neves a rhywbeth tebyg am Helder Costa ac, wrth gwrs, mae hynny’n gwneud pethau dipyn haws.

“Pe baech chi’n dweud wrthyf fod gyda fi £18 miliwn neu £20 miliwn, yna wrth gwrs y gallwn i brynu chwaraewr o’r radd flaenaf.

“Os oes gyda chi chwaraewyr da, gallwch chi greu deinameg gref iawn ac i wneud hynny, mae angen arian arnoch chi.

“Ond rhaid i fi ddweud nad ydw i’n chwilio am chwaraewyr o Bortiwgal ar hyn o bryd. I gael y chwaraewyr o Bortiwgal allai helpu’r tîm hwn, fe fyddai angen £30 miliwn neu £40 miliwn, hyd yn oed. Dyna’r math o arian mae gofyn amdano fe.”

Chwaraewyr o Loegr

Mae disgwyl i Carlos Carvalhal chwilio am chwaraewyr newydd yng nghynghreiriau Lloegr, ac fe ddywedodd fod yn well ganddo’r math hwnnw o chwaraewyr i geisio achub ei glwb sydd ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

“Mae’n well gyda fi chwaraewyr sy’n gallu addasu i bêl-droed Seisnig, ond dyw hi ddim yn hanfodol eu bod nhw wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair.”

Targedau

Tri enw allai ddenu sylw Abertawe yw Barry Bannan, Fernando Forestieri a Gary Hooper, tri chwaraewr mae Carlos Carvalhal yn eu hadnabod yn dda o’i gyfnod gyda Sheffield Wednesday.

Ond dyw’r rheolwr ddim wedi’i argyhoeddi fod angen chwaraewyr o’r Bencampwriaeth ar yr Elyrch ar hyn o bryd.

“Pe bawn ni ar ddechrau’r tymor, dw i’n gwybod y gallen ni ddod â dau neu dri chwaraewr i mewn o’r Bencampwriaeth – efallai chwaraewyr dyw pobol ddim wedi clywed sôn amdanyn nhw o’r blaen – ac fe fydden nhw’n gwneud gwahaniaeth i’r clwb hwn.

“Ond nid dyma’r amser am hynny. Mae angen mwy o brofiad arnon ni yn y tîm.”