Caerdydd 0–0 Mansfield                                                                 

Bydd rhaid i Gaerdydd a Mansfield ail chwarae eu gêm drydedd rownd Cwpan FA wedi iddi orffen yn ddi sgôr yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Bu rhaid i Conrad Logan yn y gôl i Mansfield fod yn effro i atal ergyd Rhys Healey a pheniad Sean Morrison wrth i Gaerdydd reoli’r hanner cyntaf.

Roedd y tîm o’r Ail Adran yn well wedi’r egwyl a bu bron i Lee Angol eu rhoi ar y blaen ond cafodd ei atal gan Brian Murphy.

Bu bron i Gaerdydd ei chipio hi yn yr eiliadau olaf ond gwaneth Logan yn dda i atal Krystian Pearce rhag gwyro’r bêl i’w rwyd ei hun.

Bydd y ddau dîm yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd felly, gyda’r gêm drydedd rownd i’w hail chwarae ar Field Mill mewn wythnos a hanner.

.

Caerdydd

Tîm: Murphy, Richards, Morrison (Damour 75’), Ecuele Manga, Bennett, Paterson, Halford, Tomlin, Mendez-Laing, Zohore (Pilkington 80’), Healey (Hoilett 75’)

.

Mansfield

Tîm: Logan, Anderson, Pearce, Bennett, Benning, Potter, Mellis (Atkinson 90+2’), MacDonald, Hamilton, Hemmings (Spencer 45’), Angol (Sterling-James 75’)

.

Torf: 6,378