Mae Cymro yn nhîm pêl-droed Abertawe heddiw am y tro cyntaf ers blwyddyn.

Mae’r cefnwr de Connor Roberts o Gastell-nedd wedi’i gynnwys yn y tîm i herio’r Wolves yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ar gae Molineux (3 o’r gloch).

Fe ddaw’r chwaraewr 22 oed i mewn i’r tîm yn sgil anaf i’r capten Angel Rangel a gwaharddiad Kyle Naughton.

Does yna’r un Cymro wedi ymddangos yng nghrys yr Elyrch ers i Neil Taylor adael am Aston Villa fis Ionawr y llynedd.

Roedd Tyler Reid a Daniel James wedi bod yn ymarfer gyda’r brif garfan, ond mae Reid wedi mynd ar fenthyg i Gasnewydd.

Dychwelyd o Middlesbrough

Daw’r newyddion ddyddiau’n unig ar ôl i Connor Roberts gael ei anfon yn ôl o Middlesbrough gan y rheolwr o Gymru, Tony Pulis.

Roedd i fod i dreulio’r tymor cyfan ar fenthyg.

Ymunodd ag Abertawe yn 2014, ond dyw e ddim wedi chwarae i’r tîm cyntaf, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg yn Yeovil, Bristol Rovers a Middlesbrough.

Tîm Abertawe: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Fernandez (capten), Bartley, Olsson, Sanches, Fer, Dyer, Routledge, Bony. Eilyddion: Mulder, Roque Mesa, Fulton, Carroll, Narsingh, Ayew, McBurnie