Mae ymdrechion Wrecsam i ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed yn parhau heddiw wrth iddyn nhw groesawu Torquay i’r Cae Ras (3 o’r gloch).

Mae Akil Wright ar gael yn barhaol i’r Cymry ar ôl symud o Fleetwood ar ddiwedd cyfnod llwyddiannus ar fenthyg.

Ac fe fydd dau wyneb newydd yn nhîm y Saeson, gyda’r amddiffynnwr Miche Efete a chyn-chwaraewr canol cae Caerdydd Tommy O’Sullivan yn ymddangos am y tro cyntaf. Mae O’Sullivan wedi symud ar fenthyg o Plymouth Argyle.

Mae Wrecsam yn bumed yn y tabl, naw pwynt oddi ar y brig, tra bod Torquay ar y gwaelod.