Brwydr y ddau reolwr o Bortiwgal fydd hi yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr heddiw, wrth i Carlos Carvalhal a’r Elyrch deithio i herio’r Wolves o dan reolaeth Nuno Espirito Santo ym Molineux (3 o’r gloch).

Daw’r ddau ben-ben â’i gilydd bythefnos yn unig ar ôl i’r Wolves guro tîm Sheffield Wednesday – hen glwb Carvalhal yn y Bencampwriaeth.

Ac mae rheolwr yr Elyrch yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl, meddai.

“Maen nhw’n dîm da iawn a threfnus, ond fe wnaethon ni ddigon i ennill y gêm honno [yn Hillsborough fis diwethaf].

“Un foment oedd hi pan sgoriodd Ruben Neves, chwaraewr yng Nghynghrair y Pencampwyr, gôl oddi ar ail belen a gwneud y gwahaniaeth yn y gêm honno.

“Ond nawr dw i yma, ac ry’n ni am fynd yno a chyrraedd rownd nesa’r gwpan.”

Rhan o’r llinach ym Mhortiwgal

Mae Carlos Carvalhal a Nuno Espirito Santo yn ddau o’r genhedlaeth newydd o reolwyr o Bortiwgal sydd wedi dod i gynghreiriau Lloegr i arfer eu crefft.

Ond dydy’r ddau ddim yn “ffrindiau”, yn ôl Carlos Carvalhal, er eu bod nhw’n hanu o’r un wlad.

“Dw i wedi dod ar ei draws e mewn gemau a dw i’n cofio ein bod ni ar yr un rhaglen deledu ym Mhortiwgal unwaith.

“Ond dyna ni. Does gyda fi ddim ei rif ffôn e, a does ganddo fe mo fy rhif ffôn i.

“Dydyn ni ddim yn ffrindiau, ond mae hynny’n arferol.”

Yn ôl Carlos Carvalhal, doedd dim angen iddo bwyso ar Santo na’r un o’r rheolwyr eraill o Bortiwgal am gymorth pan ddaeth yn rheolwr yn Lloegr ddwy flynedd a hanner yn ôl.

Ymhlith y rheolwr a hyfforddwyr mwyaf blaenllaw mae Jose Mourinho a’i gynorthwyydd Rui Faria.

“Pan ddes i i Loegr, er fy mod i’n nabod Jose Mourinho a Rui Faria, es i ddim atyn nhw.

“Er ein bod ni o’r un wlad, dydy hynny ddim yn beth anodd i’w ddeall.

“Fe ddysgais i’n gyflym iawn am y gystadleuaeth, a dw i ddim yn teimlo bod angen mynd at rywun i deimlo’n rhan o bopeth.”

Hyfforddi

Ond fe fu Carlos Carvalhal a Jose Mourinho yn astudio ar gyfer eu bathodyn hyfforddi gan Uefa ar yr un pryd, ac mae rheolwr Abertawe’n cydnabod dylanwad Mourinho arno fe a’i gydwladwyr.

“Agorodd Mourinho y drws i’r holl hyfforddwyr ym Mhortiwgal.

“Pan lwyddodd Mourinho yn Lloegr, roedd wedi rhoi’r ysfa i reolwyr o Bortiwgal fynd i Affrica ac i Asia, os nad y cynghreiriau mawr yn Ewrop.

“Dw i ddim yn ifanc rhagor ond dw i’n rhan o’r genhedlaeth aeth ar y llwybr i ddod yma.”

Y timau

Fe allai Rafa Mir ymddangos yng nghrys y Wolves am y tro cyntaf heddiw ar ôl symud o Valencia yr wythnos hon.

Mae golwr Abertawe, Lukasz Fabianski yn cael gorffwys, tra bod y cefnwr de Kyle Naughton wedi’i wahardd a’r cefnwr de arall a’r capten Angel Rangel wedi anafu ei goes.

Mae’r chwaraewyr canol cae Leon Britton a Ki Sung-yueng hefyd wedi’u hanafu, ac mae amheuon am ffitrwydd yr ymsodwr Tammy Abraham yn dilyn salwch.

Ond fe ddylai ei bartner ym mlaen y cae, Wilfried Bony fod yn holliach ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Mae’r Wolves heb eu capten, Danny Batth yn dilyn gwaharddiad, tra bod y golwr Carl Ikeme a’r amddiffynnwr Phil Ofosu-Ayeh allan yn y tymor hir.

Yn ôl Carlos Carvalhal, y Wolves “oedd y tîm gorau i fi ei weld yn fy nghyfnod yn y Bencampwriaeth”, ac mae ganddyn nhw fantais o 12 o bwyntiau dros Derby ar frig y tabl.