Mansfield yn unig sy’n sefyll rhwng tîm pêl-droed Caerdydd a phedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Mae’r Saeson yn teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (3 o’r gloch) ar ôl curo Caerliwelydd o 3-1 ar Ddydd Calan.

Shaw Lane a Guiseley oedd gwrthwynebwyr blaenorol Mansfield, sy’n chweched yn yr Ail Adran yn dilyn rhediad o bum gêm ddi-guro.

Danny Rose yw’r chwaraewyr i’w wylio yn nhîm Mansfield, ar ôl i’r ymosodwr 24 oed sgorio 12 gôl ym mhob cystadleuaeth hyd yn hyn. Ac mae Kane Hemmings, sydd ar fenthyg o Rydychen, wedi rhwydo saith gwaith mewn 18 o gemau.

Gemau’r gorffennol

Yr Adar Gleision oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm flaenorol rhwng y ddau dîm – o 1-0 y ddau dro.

Daethon nhw ben-ben â’i gilydd yn 2003, wrth i Rob Earnshaw sgorio’r gôl fuddugol.

Ond dydyn nhw erioed wedi cyfarfod yng Nghwpan FA Lloegr.