Mae dwy gêm yn Uwch Gynghrair Cymru heno a gyda’r ffenestr drosglwyddo wedi agor mae newidiadau wedi bod yn rhai o’r clybiau yn barod.

Bydd Bangor yn gobeithio cael eu tymor yn ôl ar y trywydd iawn pan fydd y Drenewydd yn teithio i Nantporth.

Roedd colli i  Landudno yn ergyd i Fangor yn eu gêm ddiwethaf, yn enwedig ar ôl i’r Seintiau Newydd golli gartref i’r Drenewydd.

Nid yw Bangor wedi ennill ers tair gêm.

Hyd yma nid yw Bangor wedi arwyddo’r un chwaraewr, ond maen nhw wedi rhyddhau’r ymosodwr o Bolifia, Anderson Cayola.

Bydd Y Drenewydd yn gobeithio am ganlyniad positif arall ar ôl y fuddugoliaeth y penwythnos diwethaf yn erbyn y pencampwyr Y Seintiau Newydd. Maen nhw rŵan chwe phwynt o flaen Prestatyn sydd yn y gwaelodion ac ond chwe phwynt  o fewn y chwech uchaf gyda gêm mewn llaw ar y clybiau uwchben.

Buckley ymuno â Phrestatyn

Y gêm arall heno yw Prestatyn yn erbyn Y Seintiau Newydd. Fe ymunodd Oli  Buckley â Phrestatyn neithiwr. Roedd wedi chwarae 22 o weithiau yn y gynghrair i’r Rhyl y tymor diwethaf.

Bydd Y Seintiau Newydd yn wyliadwrus o’u gwrthwynebwyr ar ôl colli dwy o’u deg gêm ddiwethaf. Mae’r pencampwyr wedi bownsio nôl o’u colled i’r Drenewydd gan guro’r Bala 3-0 nos Fawrth mewn tywydd erchyll ar Faes Tegid.