Mae cyn-hyfforddwr ieuenctid Clwb Pêl-droed Crewe Alexandra wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.

Roedd Paul McCann, 57, yn hyfforddwr gyda’r clwb yn y 1980au a’r 1990au.

Aeth gerbron ynadon yn Sir Gaer heddiw i wynebu chwe chyhuddiad i gyd – pedwar o ymosod ar fachgen dros 16 oed a dau o ymosod ar yr un bachgen pan oedd e o dan 16 oed.

Digwyddodd y troseddau honedig i gyd rhwng 1987 a 1990.

Cadarnhaodd Paul McCann ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr.

Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caer ar Ionawr 31, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod yn y cyfamser.