Rheolwr yr Elyrch yn gwrthod beio’r dyfarnwr na’i gynorthwywyr

Diweddarwyd am  
Carlos Carvalhal

Carlos Carvalhal

Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe

Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe wedi gwrthod beio’r dyfarnwr a’i gynorthwywyr am y golled yn erbyn Spurs yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Fawrth).

Collodd yr Elyrch o 2-0 ar ôl sawl penderfyniad dadleuol, cyn i’r cyn-ymosodwr Fernando Llorente ddychwelyd i roi siom i Abertawe, ac yntau wedi symud i ogledd Llundain o dde Cymru dros yr haf a heb sgorio yn yr Uwch Gynghrair i’w glwb newydd tan neithiwr.

Peniodd gic rydd gan Christian Eriksen i gefn y rhwyd, ond roedd lluniau’r teledu’n dangos bod yr ymosodwr yn camsefyll ar y pryd – ac roedd y penderfyniad i roi cic rydd am dacl flêr yn un dadleuol yn y lle cyntaf.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe ar waelod y tabl, bedwar pwynt islaw’r safleoedd diogel.

“Pawb yn gwneud camgymeriadau”

“Dw i wedi cyrraedd yr Uwch Gynghrair, a fydda i ddim yn dechrau siarad am ddyfarnwyr,” meddai Carlos Carvalhal. “Mae dau beth y galla’ i siarad amdanyn nhw. Un, roedd y llumanwr wedi ymddiheuro ar ddiwedd y gêm.

“Dw i’n deall mai camgymeriad oedd e. Dw i’n gwneud camgymeriadau, mae pawb ohonom yn gwneud camgymeriadau. Mae’n iawn.”

Ar ôl i Davinson Sanchez weld cerdyn melyn am y dacl, fe gafodd ei dynnu oddi ar y cae gan reolwr Spurs, Mauricio Pochettino.

“Yr ail bwynt, mae Pochettino yn rheolwr clyfar oherwydd fe wnaeth e eilyddio Sanchez yn y foment honno. Mae e’n glyfar, mae e’n gwybod pam ei fod e wedi ei eilyddio fe. Ar ôl hyn, dw i ddim eisiau siarad am ddim byd.”

 

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd