Mae dyfodol Mark Hughes yn rheolwr clwb pêl-droed Stoke City yn y fantol, a hynny ar ôl hanner cyntaf siomedig i’r tymor.

Wedi i’r clwb golli yn y gêm yn erbyn Newcastle United nos Lun o 1-0, a cholli hefyd yn erbyn Chelsea o 5-0 dros y penwythnos, mae rhai’n darogan y bydd cyhoeddiad gan y clwb yr wythnos hon.

Y gêm nos Lun oedd y seithfed gêm allan o ddeg iddyn nhw ei cholli, gyda’r clwb ar hyn o bryd yn agos at waelod yr Uwch Gynghrair.

Ac yn ystod y gêm honno, roedd anfodlonrwydd cefnogwyr Stoke i’w weld yn glir wrth i ambell un ar y teras ddal arwyddion “Hughes out!”

Er hyn, mae Mark Hughes yn parhau yn ei swydd ar hyn o bryd ac yn mynnu y bydd yn gweithio’n galed i geisio adfer sefyllfa’r clwb. Mae disgwyl cynhadledd y wasg bore fory (dydd Iau) cyn y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Coventry.