Mae amddiffynnwr tim pêl-droed Lerpwl wedi cyfaddef ymosod ar ei gariad yn ystod noson allan yn y ddinas.

Fe ymddangosodd Jon Flanagan gerbron Llys Ynadon Lerpwl heddiw, pryd y dywedodd iddo ymosod ar Rachael Wall dair noson cyn y Nadolig.

Roedd y chwaraewr 24 oed wedi’i arestio yn dilyn digwyddiad yn Duke Street ar Ragfyr 22.