Bangor 0–1 Llandudno                                                                      

Sgoriodd Marc Williams gôl hwyr ddramatig i gipio tri phwynt i Landudno yn erbyn Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru ar Nantporth nos Lun.

Wedi 89 munud di sgôr fe gipiodd blaenwr yr ymwelwyr y pwyntiau i’w dîm gydag unig gôl y gêm.

Bangor, heb os, a ddechreuodd y gêm orau ond daeth Llandudno yn fwyfwy i mewn iddi wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen.

Cafodd yr ymwelwyr ddau gyfle da i agor y sgorio hefyd ond anelodd Shaun Cavanagh a Mike Williams beniad rhydd yr un yn syth at Matthew Hall yn y gôl.

Luke Wall a ddaeth agosaf i Fangor yn yr hanner cyntaf ond gwnaeth Dave Roberts arbediad da wrth i chwaraewr Bangor geisio crymanu’r bêl i’r gornel uchaf.

Patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner, Bangor yn cael y gorau o’r meddiant ond dim ond hanner cyfleoedd yn y ddau ben.

Cafodd Gary Taylor-Fletcher gyfle euraidd i’w hennill hi i Fangor bum munud o ddiwedd y naw deg ond anelodd ei beniad yn syth at Roberts yn y gôl.

Yna, daeth eiliad dyngedfennol y gêm ym munud olaf y naw deg. Rhedodd Hall allan o’i gwrt cosbi i glirio’r bêl a gwyrodd cic y golwr oddi ar Marc Williams ac i gyfeiriad y gôl. Roedd gan Williams ddigon i’w wneud o hyd ond llwyddodd i gyrraedd y bêl gyntaf a’i rhoi hi yng nghefn y rhwyd a chipio’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn gadael Bangor yn drydydd yn y tabl ac yn cadw gobeithion Llandudno o gyrraedd y chwe uchaf yn fyw o hyd, maent yn wythfed gyda dwy gêm i fynd cyn y toriad.

.

Bangor

Tîm: Hall, Connolly (Williams 32’), Kennedy, Wall, Gosset (Shaw 42’), Hewitt, Taylor-Fletcher, Wilson,  Demetriou (Jones 70’), Rittenberg, Holmes

Cerdyn Melyn: Williams 90+2’

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Taylor, Joyce, Shaw, Hart (Thomas 87’), Mike Williams, Dix, Hughes, Marc Williams, Jones, Cavanagh (Edwards 56’(Hassall 78’))

Gôl: Marc Williams 90’

.

Torf: 265