QPR 2–1 Caerdydd                                                                             

Parhau a wnaeth Nadolig diflas Caerdydd wrth iddynt golli am y pedwerydd gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth wrth deithio i Loftus Road i wynebu QPR brynhawn Llun.

Er i Ralls roi’r Adar Gleision ar y blaen fe darodd y tîm cartref yn ôl gyda goliau Smith a Smyth.

Wedi hanner cyntaf di gyffro fe aeth Caerdydd ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod, Joe Ralls yn sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd Jake Bidwell ar Callum Paterson.

Unionodd Matt Smith y sgôr toc wedi’r awr gyda pheniad da o dafliad hir ac roedd QPR ar y blaen ddeg munud yn ddiweddarach diolch i gôl Paul Smyth.

Roedd Junior Hoilett yn meddwl ei fod wedi achub pwynt i’r Adar Gleision yn y munudau olaf ond cafodd ei gôl ei gwrthod diolch i benderfyniad camsefyll dadleuol.

Mae’r golled, pedwaredd Caerdydd dros gyfnod y Nadolig, yn eu gadael yn bedwerydd yn nhabl y Bencampwriaeth

.

QPR

Tîm: Smithies, Baptiste, Onuoha, Robinson, Cousins, Scowen, Luongo, Freeman, Bidwell (Lynch 84’), Smyth (Oteh 77’), Smith

Goliau: Smith 62’, Smyth 72’

Cardiau Melyn: Smyth 70’, Freeman 90+3’

.

Caerdydd

Tîm: Murphy, Ecuele Manga, Bamba, Connolly, Paterson, Peltier (Damour 58’), Ralls, Bennett, Healey (Mendez-Laing 67’), Hoilett, Zohore

Gôl: Ralls [c.o.s.] 54’

Cardiau Melyn: Connolly 18’, Peltier 50’

.

Torf: 13,801