Mae dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru heddiw gydag Aberystwyth yn herio Caerfyrddin a’r gêm fyw hwyrach y prynhawn ma pan fydd Dinasyddion Bangor yn herio Llandudno.

Gyda’r Seintiau Newydd yn colli gartref i’r Drenewydd ddydd Sadwrn, mae’r canlyniad yn rhoi gobaith i’r timau eraill sy’n brwydro am y bencampwriaeth.

Mae Bangor wyth pwynt tu ôl i’r Seintiau ond bydd ei gyn-chwaraewr Shaun Kavanagh, yn gobeithio bydd y tri phwynt yn mynd nôl lawr yr A55 i Landudno.

“Mae gen i atgofion da o Fangor, roeddwn gyda nhw ers pan oeddwn i’n ifanc,” meddai wrth golwg360, “ond gyda Llandudno dw i’n chwarae rŵan ac rydan ni heb ennill ers pedair gem; felly i gael unrhyw obaith o orffen yn y chwech uchaf bydd yn rhaid i ni ennill ein tair gem sy’n weddill cyn yr hollt.”

Mae Llandudno yn yr wythfed safle gyda 23 phwynt, pedwar pwynt tu ôl i Dderwyddon Cefn a’r Barri ar 27 pwynt.

Sgorio gôl

“Dw i wedi bod ar  y fainc rhan fwyaf o’r tymor, ond wnes i ddod ymlaen yn erbyn y Drenewydd dechrau Rhagfyr a sgorio gôl dda, ac rwyf wedi aros yn y tîm ers hynna.

” Dw i’n gobeithio fy mod wedi gwneud digon i ddechrau yn erbyn Bangor.

“Mae Iwan Williams, y rheolwr, a’i gynorthwyydd Matty Williams yn broffesiynol. Mae bob dim wedi cael ei ddadansoddi ac mae’r ymarfer yn amrywio, mae ’na hwyl  i gael ond rydan ni’n gwybod lle mae’r llinell.

“Mae syniadau ganddyn nhw, ac rwyf yn siŵr dros y misoedd nesaf bydd Iwan yn rhoi stamp ei hun ar y tîm.

“Rydan ni’n deall bod Bangor yn dîm cryf ond y bwriad yw aros yn y gêm mor hir ag y gallwn ni. Bydd yn rhaid bod yn wyliadwrus  o Dean Rittenburg, chwaraewr peryg, ond mae ganddyn nhw garfan gref, felly bu rhaid gweithio’n galed am y 90 munud.”