Cheltenham 1–1 Casnewydd                                                         

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gasnewydd deithio i Whaddon Road i wynebu Cheltenham yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe beniodd Padraig Amond yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl.

Felly yr arhosodd hi tan 13 munud o’r diwedd pan gafodd Mohamed Eisa y gorau o Ben White cyn anelu ergyd gywir heibio i Joe Day yn y gôl.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi wedi hynny ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd.

Mae Casnewydd yn llithro un lle i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl o ganlyniad.

.

Cheltenham

Tîm: Flinders, Moore, Grimes, Boyle, Winchester, Dawson, Morrell, Atangana, Sellars, Eisa, Graham (Wright 66’)

Gôl: Eisa 77’

Cardiau Melyn: Graham 7’, Atangana 20’, Moore 90+1’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, Bennett, White, Butler, Willmott, Dolan (Tozer 69’), Owen-Evans, Nouble (McCoulsky 90+1’), Amond

Gôl: Amond 55’

Cerdyn Melyn: Nouble 89’

.

Torf: 3,637