Fe fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn mynd ben-ben â’i ffrind Joao Pedro Sousa, is-hyfforddwr Watford yn Vicarage Road y prynhawn yma.

Tîm hyfforddi o Bortiwgal sydd gan Abertawe a Watford, ill dau, a’r Saeson yn cael eu rheoli gan Marco Silva – gwrthwynebydd cyntaf Paul Clement wrth y llyw fis Ionawr diwethaf mewn gêm gwpan yn erbyn Hull.

Mae nifer o wynebau newydd ar fainc yr Elyrch heddiw, gan gynnwys y rheolwr Carlos Carvalhal, a’i is-hyfforddwyr Joao Mario a Bruno Lage, a’r dadansoddwyr Jhony Conceicao a Paulo Sampaio.

Joao Mario

Ac yntau wedi dechrau ei yrfa’n hyfforddi yn adrannau isaf Portiwgal, fe gafodd ei benodi’n gyfarwyddwr technegol ac yn hyfforddwr ar Academi Moreirense yn ei famwlad.

Roedd yn is-hyfforddwr i Carlos Carvalhal yn Vitoria Setubal, Astreras Tripoli yng Ngroeg, Sporting CP, Besiktas yn Nhwrci, Istanbul BB yn Nhwrci ac Al-Ahly yn Dubai.

Bruno Lage

Gyda chlwb Vitoria Setubul y dechreuodd Bruno Lage ei yrfa fel is-hyfforddwr. Aeth ymlaen i hyfforddi timau rhanbarthol ym Mhortiwgal ac yng nghynghreiriau proffesiynol y wlad wedyn.

Roedd yn hyfforddwr gydag Academi Benfica rhwng 2004-05 a 2012 ac yn gydlynydd cynorthwyol yn 2010.

Roedd yn hyfforddwr ieuenctid llwyddiannus yn Benfica, gan ennill sawl tlws a nifer o wobrau unigol.

Aeth gyda Carlos Carvalhal i Al-Ahly yn hyfforddi’r tîm dan 19 a’r ail dîm cyn symud gyda’i gilydd i Sheffield Wednesday.

Dadansoddwyr

Roedd y ddau ddadansoddwr newydd, Jhony Conceicao a Paulo Sampaio yn aelodau o dîm Carlos Carvalhal yn Sheffield Wednesday.

Leon Britton

Fe gafodd Leon Britton gynnig i aros yn is-hyfforddwr ond mae e wedi canolbwyntio ar ennill ei le yn y tîm fel chwaraewr. Roedd yn is-hyfforddwr o dan Paul Clement yn dilyn ymadawiad Claude Makélélé ar Dachwedd 13.

Dywedodd: “Fe wnaethon nhw adael i fi benderfynu’n llwyr, ac roedd rhaid i fi benderfynu a oeddwn i eisiau bod yn hyfforddwr neu’n chwaraewr.”

Dywedodd ei fod e “wedi dysgu tipyn mewn cyfnod byr” ond ei fod yn teimlo y gall gael “effaith bositif ar y cae fel chwaraewr o hyd”.

Mae ganddo fe anaf i’w goes ar hyn o bryd, ond mae disgwyl iddo ddychwelyd ar gyfer y gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn Wolves ar Ionawr 6.

‘Ddim yn chwarae am gêm gyfartal’

Mae Carlos Carvalhal yn mynnu mai mynd i Watford i ennill y bydd ei dîm heddiw, gan ddweud, “Dw i erioed wedi chwarae yn fy ngyrfa am gêm gyfartal.”

“Dw i bob amser yn trio ennill, hyd yn oed pan o’n i’n hyfforddi yn Nhrydedd Adran Portiwgal pan oedden ni’n herio timau o’r Adran Gyntaf.”

Mae’r rheolwr newydd wedi cael hwb o glywed y gallai’r ymosodwr Wilfried Bony fod ar gael ar gyfer y gêm ar ôl gwella o’i anaf diweddaraf.

Ond mae Ki Sung-yueng a Kyle Bartley allan o hyd.

Mae Will Hughes, Miguel Britos ac Isaac Success ar gael i Watford, sydd wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair.

Ond mae eu capten Troy Deeney wedi’i wahardd o hyd.

Watford v Abertawe – yr ystadegau

Watford sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gemau (tair) o’u pum cyfarfod diwethaf yn Vicarage Road, a’r Elyrch wedi ennill un ohonyn nhw’n unig, a’r llall yn gêm gyfartal. Watford sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf.

Ond dim ond chwe gôl sydd wedi cael eu sgorio i gyd yn y gemau hyn, a allai fod yn newyddion drwg i’r Elyrch, sydd wedi sgorio 11 gôl yn unig y tymor hwn.

Y newyddion da i Abertawe, o bosib, yw mai 12 pwynt yn unig mae Watford wedi’u hennill ar eu tomen eu hunain y tymor hwn – un pwynt yn llai na chyfanswm holl bwyntiau’r Elyrch.

Richarlison yw’r chwaraewr y bydd rhaid i’r Elyrch ei gadw’n dawel heddiw, ac yntau wedi bod ynghlwm wrth naw o goliau ei dîm y tymor hwn, gan sgorio pump a chreu pedair. Ond dim ond un gôl mae e wedi’i sgorio gartref.

Dim ond un fuddugoliaeth gafodd Abertawe yn eu 12 gêm ddiwethaf, gan orffen yn gyfartal ddwywaith a cholli naw gêm. Ac maen nhw wedi ildio 13 o goliau yn eu pedair gêm ddiwethaf yn y gynghrair.

Dim ond Man City yn 1995-96 a Derby yn 2007-08 sydd wedi sgorio llai o goliau yn eu 20 gêm gyntaf mewn tymor yn holl hanes yr Uwch Gynghrair.

Ond maen nhw wedi colli saith gêm oddi cartref o’r bron bellach – gan efelychu eu rhediad gwaethaf erioed yn yr Uwch Gynghrair. Yn y cyfnod hwnnw, maen nhw wedi sgorio tair gôl, gan ildio 16.

Y timau

Watford: Gomes (capten), Janmaat, Wagué, Kabasele, Zeegelaar, Doucouré, Watson, Carrillo, Cleverley, Richarlison, Okaka. Eilyddion: Karnezis, Prödl, Holebas, Capoue, Pereyra, Sinclair, Gray.

Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez (capten), Mawson, Olsson, Roque Mesa, Clucas, Carroll, Sanches, Ayew, Abraham. Eilyddion: Nordfeldt, van der Hoorn, Rangel, Fer, Dyer, Narsingh, McBurnie.