Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi datgelu bod “rhamant” y swydd yn apelio ato, er eu bod nhw ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ac yn wynebu posibilrwydd cryf o ostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Daeth cadarnhad ddoe (Rhagfyr 28) mai’r rheolwr 52 oed o Bortiwgal – a chyn-reolwr Sheffield Wednesday – sydd wedi’i benodi’n olynydd i Paul Clement, a gafodd ei ddiswyddo gan yr Elyrch ar Ragfyr 20.

Roedd wedi’i gysylltu â’r swydd ddwywaith yn y gorffennol, ond fe fu’n edmygwr o’r clwb ers 35 o flynyddoedd pan oedd John Toshack wrth y llyw, ac Abertawe wedi cyrraedd yr Adran Gyntaf – y brif adran ar y pryd.

Roedd yn aelod o dîm ieuenctid Braga yn ei famwlad pan herion nhw Abertawe yng Nghwpan Enillwyr Cwpan Ewrop ym mis Awst 1982.

“Dw i’n ei gofio’n dda,” meddai, “oherwydd roedd hi’n anarferol i Braga gyrraedd cystadlaethau Uefa ar y pryd. John Toshack oedd y rheolwr, ac roedd Abertawe yn fy nghof am amser hir wedyn.”

Ychwanegodd mai ei “dynged” ers hynny oedd rheoli Abertawe ryw ddiwrnod.

“Delwedd o bêl-droed dda a threfn sydd gan y clwb hwn. Mae pawb yn hoffi’r tîm – does neb yn erbyn Abertawe.”

Tasg anodd

Prif dasg y rheolwr newydd – y seithfed rheolwr yn Stadiwm Liberty o fewn dwy flynedd – fydd cadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Cymaint oedd ei ysfa i greu argraff ar ei glwb newydd nes ei fod e wedi teithio dros nos o Sheffield – gan adael am 4 o’r gloch y bore – i gyrraedd safle hyfforddi Fairwood i arwain sesiwn ymarfer am y tro cyntaf fore ddoe.

Ac fe ddatgelodd wrth y wasg yn ei gynhadledd gyntaf ei fod e wedi gwrthod y cyfle i eisteddle am ddwy gêm, gan ddewis mynd ati ar unwaith i arwain o’r ystlys.

Besiktas

Pa mor anodd bynnag y bydd y dasg o gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair, fydd hi ddim mor anodd â’r hyn a brofodd tra ei fod yn rheolwr ar dîm Besiktas yn Nhwrci yn 2011.

Roedd is-lywydd a chyfarwyddwr chwaraeon y clwb yn y carchar yn dilyn ymchwiliad i honiadau o drefnu canlyniadau gemau, a doedd e ddim wedi cael ei dalu am bedwar mis.

“Fe ges i fy hun yn hyfforddi ar fy mhen fy hun mewn gwlad estron ac yna fe ddaeth y cyfarwyddwr chwaraeon allan o’r carchar ac roedd e eisiau rheoli eto.

“Treuliais i fis yn cysgu yn academi’r clwb, a dyna wnes i pan es i i Sheffield Wednesday, ac roedd rhaid i fi aros i’r is-lywydd ddod allan o’r carchar er mwyn cael fy nhalu.”