Lerpwl 5–0 Abertawe
Parhau y mae tymor trychinebus Abertawe wedi iddynt golli’n drwm yn erbyn Lerpwl yn Anfield nos Fawrth.
Sgoriodd y tîm cartref un gôl yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu pedair arall wedi’r egwyl.
Agorodd Philippe Coutinho’r sgorio gydag ergyd wych o bellter wedi dim ond chwe munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Dyblodd Roberto Firminio’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod, yn gorffen yn hawdd o gic rydd Coutinho.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel toc wedi’r awr pan redodd Trent Alexander-Arnold i’r cwrt cosbi cyn ergydio heibio i Lukasz Fabinski yn y gôl.
Rhoddodd Mohamed Salah ail ar blât i Firminio funud yn ddiweddarach ac fe gwblhaodd Alex Oxlade-Chamberlain y sgorio yn y deg munud olaf gydag ergyd dda o ongl dynn.
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe ar waelod y tabl, bum pwynt y tu ôl i ddiogelwch yr ail safle ar bymtheg.
.
Lerpwl
Tîm: Mignolet, Alexander-Arnold, Matip, Klavan, Robertson (Milner 75’), Oxlade-Chamberlain, Can, Wijnaldum, Salah (Lallana 69’), Firminio (Solanke 68’), Coutinho
Goliau: Coutinho 6’, Firminio 52’, 66’, Alexander-Arnold 65’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Routledge, Fer (Renato Sanches 78’), Mesa (Clucas 65’), Carroll, Ayew, McBurnie (Abraham 62’)
Cerdyn Melyn: Olsson 56’
.
Torf: 52,850