Mae rheolwr dros dro tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton yn gobeithio y bydd hanes yn cael ei ailadrodd wrth iddo fynd â’i dîm i Anfield i herio Lerpwl ar Ŵyl San Steffan.

Fis Ionawr diwethaf, ac yntau yn ei fis cyntaf yn swydd y prif hyfforddwr, enillodd tîm Paul Clement y gêm gyfatebol o 3-2.

Mae’r Elyrch ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr unwaith eto flwyddyn yn ddiweddarach.

Dywedodd Leon Britton: “Ry’n ni’n gwybod y bydd yn gêm anodd gyda’r chwaraewyr sydd ganddyn nhw.

“Edrychwch ar faint o goliau mae Lerpwl yn sgorio. Mae’r llinell ymosod ymhlith y goreuon yn yr Uwch Gynghrair.

“Dw i wedi cael blas fel chwaraewr ar ba mor anodd yw mynd yno – y ffordd maen nhw’n chwarae pêl-droed ac yn gwasgu, mae’n bêl-droed ar ddwyster uchel.

“Ond fe aethon ni yno ym mis Ionawr ac ennill o dan amgylchiadau anodd pan oedd diffyg hyder yn y tîm.

“Felly ry’n ni’n mynd yno gan wybod y gallwn ni sicrhau canlyniad.”

‘Arwain y tîm’

Wrth i’r chwilio am reolwr parhaol newydd barhau, mae Leon Britton yn edrych ymlaen at arwain ei dîm allan yn Anfield, ac yntau yn ei ail gêm wrth y llyw.

“Bydd yn foment wych i fi a’m teulu. Mae Anfield yn un o gaeau mawr y byd pêl-droed a dw i bob amser wedi mwynhau chwarae yno.

 

“Ond bydd arwain y tîm allan yno’n achlysur arbennig.”

Mae’r Elyrch bedwar pwynt islaw’r safleoedd diogel hanner ffordd union drwy’r tymor ar ôl un fuddugoliaeth yn unig mewn 11 o gemau.

Anafiadau

Fydd hi ddim yn hawdd i’r Elyrch fynd i Anfield â rhestr hir o anafiadau.

Mae Wilfried Bony (llinyn y gâr), Ki Sung-yueng (croth y goes) a Kyle Bartley (pen-glin) i gyd allan, a bydd Kyle Bartley yn cael prawf ffitrwydd ar ei gefn ar Ddydd Nadolig.

A bellach, mae amheuon am y cefnwr de, Kyle Naughton ar ôl iddo anafu cesail y forddwyd yn y gêm yn erbyn Crystal Palace brynhawn ddoe.