Wrecsam 0–0 Dover
Cododd Wrecsam i’r ail safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Dover ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd y ddau dîm yn drydydd a phedwerydd yn y tabl ac roedd pwynt yr un yn ddigon i godi’r Dreigiau i’r ail safle a Dover i’r trydydd gan i Sutton golli yn erbyn Tranmere.
Gêm gyfartal a gafodd Macclesfield ar y brig hefyd gan olygu mai tri phwynt sydd yn gwahanu’r pedwar uchaf o hyd.
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings, Roberts, Rutherford, Pearson, Smith, Wedgbury, Kelly, Miller (Massanka 88’), Holroyd, Boden
.
Dover
Tîm: Walker, Nortley, Passley (Richards 85’), Brundle, Parry, Ilesanmi, Essam (Fazakerley 46’), Gallifuoco, Pinnock, Jeffrey (Daniel 65’), Bird
.
Torf: 4,980