Ar ôl y siom o fynd allan o Dlws FA  Lloegr yr wythnos diwethaf, mae’r clwb sydd yn y trydydd safle yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr yn troi ei sylw at gyfnod prysur y Nadolig.

Gyda phedair gêm o fewn naw niwrnod a siwrneiau i Barrow a Gateshead o’u blaenau, mi fyddan nhw’n cyfri’ dipyn o filltiroedd ar y cloc.

Roedd Dean Keates yn amlwg yn edrych ar y llun mawr pan ddewisodd ei dím yn erbyn Harrogate o Gynghrair Genhedlaeth y Gogledd dydd Sadwrn diwethaf.

Ac mae un o gyfarwyddwyr y clwb, Spencer Harris, yn fodlon a’r tymor hyd yma.

“Rydan bron yn fis Ionawr ac rydan dal yn cystadlu yn y gynghrair,” meddai wrth golwg360. “Mae Dean Keates yn gwneud swydd dda iawn.

“Mae’n rhaid cofio bod y trosiant yn y garfan wedi bod yn enfawr ers iddo ymuno á’r clwb.

“Roedd Dean Keates wedi rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc yn erbyn Harrogate,” meddai Spencer Harris wedyn, “ond doedd Harrogate ddim yn dîm gwael. Maen nhw’n cael tymor eithaf yn eu cynghrair.

“Roedd pum chwaraewr yn cael eu gemau gyntaf i Wrecsam y diwrnod hwnnw, a dim ond 16 oed ydi Ryan Williams – diwedd y diwrnod dyrchafiad ydi nod y clwb y tymor hwn – ac mae’r chwaraewyr ifanc wedi cael blas o’r tîm gyntaf.”

Cryfhau’r garfan

Mae cefnogwyr Wrecsam hefyd yn gobeithio y bydd eu rheolwr yn cryfhau’r garfan yn ystod y ffenestr drosglwyddo, ac wrth sôn am hynny, mae’n bosib y bydd dau neu dri chwaraewr newyddd yn dod i’r Cae Ras.

“Mae’r gronfa ‘Build the Budget’ wedi cyrraedd tua £60,000, ac mae’r cwmni lleol ‘Becws y Pentref (Village Bakery) yn rhoi 3500 o dartenni Nadolig i ni werthu yn y gêm diwrnod Gŵyl San Steffan yn erbyn Barrow,” meddai Spencer Harris.

“Dw i’n siŵr bydd y gemau dros y Nadolig yn galed. Mae Dover yn cystadlu gyda ni am ddyrchafiad ac mae Barrow a Gateshead wastad yn llefydd anodd a phell i fynd iddyn nhw. Cawn weld lle byddan ni ar ôl y Nadolig, gobeithio bydd yn 2018 lwyddiannus i bawb sy’n cefnogi Wrecsam.”

Gemau nesaf Wrecsam

Wrecsam v Dover – dydd Sadwrn Rhagfyr 23

Barrow v Wrecsam  dydd Mawrth Rhagfyr 26

Gateshead v Wrecsam – dydd Sadwrn Rhagfyr 30

Wrecsam v Barrow – dydd Llun Ionawr 1