Ar drothwy gêm gyntaf Leon Britton yn rheolwr dros dro ar dîm pêl-droed Abertawe, mae e’n wynebu pen tost gyda’r newyddion bod dau chwaraewr canol cae wedi’u hanafu.

Mae presenoldeb Ki Sung-yueng a Leroy Fer wedi bod yn un o gryfderau’r Elyrch yn ystod hanner cyntaf digon siomedig wrth iddyn nhw aros ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr dros gyfnod y Nadolig.

Ond mae’n annhebygol y bydd yr un o’r ddau ar gael ar gyfer ymweliad Crystal Palace â Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn.

Anaf i groth y goes sy’n achosi anhawster i Ki oedd wedi methu’r gêm yn erbyn Everton ar Barc Goodison, wrth i’r Elyrch golli’r gêm o 3-1 a’u prif hyfforddwr Paul Clement o’r herwydd.

Ac fe gafodd Leroy Fer ergyd i’w gefn gan Morgan Schneiderlin yn y gêm honno, a hynny ar ôl sgorio unig gôl yr Elyrch.

“Mae amheuaeth ynghylch Ki ar gyfer dydd Sadwrn,” meddai Leon Britton. “Mae yna siawns y gallai chwarae. Rhaid i ni ei asesu fe a gweld sut fydd e…

“Mae Leroy wedi cael ergyd i’w gefn ac mae e mewn poen ar hyn o bryd. Mae fel cael pen-glin yng nghefn eich coes.

“R’ych chi’n dod drwy’r gêm oherwydd r’ych chi’n symud ond mae’n un o’r rheiny sy’n boenus wedyn.”

Cadarnhaodd nad yw’r un o’r ddau wedi gallu ymarfer ers y gêm nos Lun.

Opsiynau

Mae gan yr Elyrch ddigon o opsiynau yng nghanol y cae, ond fe fu amheuon am berfformiadau’r rhan fwyaf ohonyn nhw hyd yn hyn.

Pe bai’r ddau allan, fe allai Sam Clucas a Renato Sanches ddod i mewn i ganol y cae, ond mae’r ddau wedi cael cryn feirniadaeth y tymor hwn.

Ac fe awgrymodd Leon Britton ei fod yn barod i roi cyfle arall i Nathan Dyer a Luciano Narsingh ar y naill asgell a’r llall, gan ddychwelyd i ddull traddodiadol yr Elyrch o chwarae, sydd wedi arwain at gryn lwyddiant dros y tymhorau diwethaf.

“Pan welwch chi’r ffurfiau ry’n ni wedi rhoi cynnig arnyn nhw y tymor hwn a’r chwaraewyr ry’n ni wedi’u trio, mae’n ymddangos ein bod ni o hyd yn chwilio am ffyrdd o sgorio goliau.

“Dw i’n credu yn y ffordd dw i eisiau gweld y tîm yn chwarae, hynny yw cael chwaraewyr yn symud ymlaen, ddim mewn ffordd dwp ond cael chwaraewyr ymlaen i gefnogi’r ymosodwyr a’r asgellwyr.

“Ym mhob tîm llwyddiannus dw i wedi chwarae ynddyn nhw yn y clwb yma – dy’ch chi ddim eisiau parablu o hyd am y gorffennol oherwydd mae pêl-droed yn newid o hyd – ond ry’n ni bob amser wedi gwneud yn dda gyda 4-3-3 neu 4-2-3-1.

“Mae wedi gweithio i ni erioed o safbwynt cael asgellwyr, ceisio cael y gorau o ganol y cae a chael ffocws yn y blaen. Mae’n rhywbeth dw i bob amser wedi mwynhau bod yn rhan ohono.”

Ymosodwyr

Fe fydd Wilfried Bony allan ar gyfer y gêm yn erbyn Crystal Palace a’r daith i Lerpwl ar Ddydd San Steffan, sy’n golygu y bydd Tammy Abraham yn arwain yr ymosod ar ei ben ei hun.

Mae amheuon hefyd a fydd Wilfried Bony yn dychwelyd ar gyfer y daith i Watford ar Ragfyr 30.

Dywedodd Leon Britton: “Mae’n drueni o safbwynt Wilf oherwydd mae e’n dechrau perfformio a sgorio goliau.

“Roedd e wedi chwarae mewn sawl gêm. Roedd e fwy na thebyg yn teimlo ei fod e’n cryfhau ar ôl methu chwarae mewn cynifer o gemau.

“Mae’n foment siomedig iddo fe’n bersonol ac i’r tîm ei fod e wedi cael yr anaf. Rhaid i ni sicrhau ei fod e’n iawn ac nad ydyn ni’n achosi anaf arall i linyn y gâr.”