Mae timau’r  Uwch Gynghrair yn edrych ymlaen at gyfnod y Nadolig ac mae Llandudno yn dechrau ar ei rhediad o gemau heno yn erbyn y myfyrwyr o Met Caerdydd.

Gyda thîm rheoli newydd yn ei le ers dechrau Tachwedd, mae’r clwb yn gobeithio am fuddugoliaethau i geisio sicrhau ei le yn y chweched uchaf cyn y toriad fis nesaf.

Mae Stephen Williams, hyfforddwr tîm cyntaf Llandudno, yn edrych ymlaen am y cyffro.

“Dw i wedi ymuno â’r clwb ers Tachwedd, ac mae’r croeso dw i wedi’i gael wedi bod yn wych, mae pawb wedi bod yn groesawgar,”  meddai wrth golwg360.

“O’n i’n arfer hyfforddi tîm dan-19 Caernarfon pan wnaeth y rheolwr Iwan Williams ofyn i mi ymuno â’i dîm hyfforddi. Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi, gweld faint o broffesiynol ydi’r Uwch Gynghrair.

“Mi fydd gêm heno yn dod ag atgofion melys i mi, achos roeddwn yn fyfyriwr yn y brifysgol yng Nghaerdydd o 1996-1999.

“O’n i’n eithaf ymarferol gyda Chaernarfon, ac yn ogystal á chynorthwyo gyda’r sesiynau ymarfer, rwyf yn gwneud gwaith dadansoddi’r gwrthwynebwyr yn fy rôl gyda Llandudno. Dw i’n cael fy asesu am y drwydded B ym mis Ionawr, a’r gobaith ydi fy mod i’n pasio ac wedyn yn mynd ymlaen i’r drwydded A.”

Anelu am y chweched safle

“Rydan ar hyn o bryd yn y seithfed safle, a’r nod ydi sicrhau ein lle yn yr Uwch Gyngrair ac wedyn anelu am y chweched uchaf,” meddai Stephen Williams wedyn.

“Mae Matty Williams wedi ymuno á’r clwb yn ddiweddar fel cynorthwyydd i Iwan, ac mae ei brofiad o’r Uwch Gynghrair yn amhrisiadwy.

“Mae wedi bod gyda dau glwb sydd ag arddull gwahanol o chwarae sef y Seintiau Newydd a Chei Connah. Hefyd, mi fydd yn gymwys i chwarae yn Ionawr, a dw i’n siŵr y bydd yn cryfhau’r tîm.”

Fe enillodd Met Caerdydd y gêm yn y de o gôl i ddim ym mis Hydref, ac mae’r myfyrwyr yn gallu brolio dau o brif sgorwyr yr Uwch Gynghrair, sef Eliot Evans ac Adam Roscrow (nawr gôl yr un hyd yma).