Mae’r golwr o Gymru, Danny Ward wedi gwrthod y cyfle i fynd ar fenthyg i Sunderland, yn ôl adroddiad ar wefan The Express.

Roedd cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman yn awyddus i arwyddo golwr newydd am dymor er mwyn atal y llif goliau sydd wedi cadw’r tîm tua gwaelod y Bencampwriaeth y tymor hwn. Maen nhw wedi ildio dwy gôl bob gêm ar gyfartaledd.

Ond fe lwyddon nhw i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ar eu tomen eu hunain ers 364 o ddiwrnodau ddoe wrth guro hen glwb Coleman, Fulham o 1-0.

Mae lle i gredu mai safle Sunderland yn y tabl oedd un o’r rhesymau pam fod Danny Ward, sydd wedi ennill pedwar cap dros ei wlad ac sy’n ail ddewis y tu ôl i Wayne Hennessey, wedi gwrthod symud yno o Lerpwl.

Symudodd Ward i Lannau Mersi o Wrecsam yn 2012, ond dim ond tair gêm mae e wedi’u chwarae ers hynny, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg ym Morecambe, Aberdeen a Huddersfield.