Mae panel disgyblu wedi dod i’r canlyniad bod sylwadau Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) am olynydd Chris Coleman wedi eu “tynnu o’u cyd-destun”.

Gan ddyfynnu unigolyn arall, roedd Jonathan Ford wedi awgrymu mewn cyfweliad na fyddai’r FAW yn penodi Sais yn rheolwr nesaf tîm cenedlaethol Cymru.

“Mae’r Prif Weithredwr wedi egluro ei sylwadau o’r cyfweliad, lle wnaeth e ailadrodd manylion o sgwrs flaenorol,” meddai datganiad gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru.

“Yn dilyn y trafodaethau [ddydd Iau] daethom i’r casgliad bod y sylwadau wedi eu tynnu o’u cyd-destun ac heb eu cyfleu yn y modd yr oedden wedi bwriadu cael eu cyfleu.”

Pwy fydd yn olynu?

Mae’r Gymdeithas yn chwilio am olynydd i Chris Coleman, sydd wedi’i benodi ers rhai wythnosau’n rheolwr ar Sunderland yn y Bencampwriaeth.

Mae lle i gredu bod Ryan Giggs, Osian Roberts a Tony Pulis ymhlith y ceffylau blaen ar gyfer y swydd, ond mae rhai enwau eraill, gan gynnwys Thierry Henry o Ffrainc hefyd yn cael eu hystyried.