Manchester City yw un o’r timau gorau y mae rheolwr Abertawe wedi eu hwynebu erioed.
Dyna ymateb Paul Clement ar ôl i’r Elyrch golli o 4-0 gartref i’r tîm sydd ar frig yr Uwch Gynghrair.
Ond roedd yn mynnu nad dyma’r math o gêm fydd yn penderfynu ar dynged y clwb o’r Liberty.
A nhwthau’n aros ar waelod y tabl, fe ddywedodd Paul Clement mai’r gêmau allweddol oedd rhai yn erbyn timau sydd o gwmpas Abertawe yn y gwaelodion.
Mae hynny’n cynnwys gêm y mis yma yn erbyn Crystal Palace sydd newydd godi uwchben yr Elyrch.
‘Caled’
“Roedd hi weithiau’n galed i weld y tîm yn cael ei dynnu’n gareiau,” meddai Paul Clement mewn cyfweliadau wedi’r gêm neithiwr.
“Fe wnaethon ni greu ambell gyfle a dw i’n flin na wnaethon ni gael gôl ond alla’ i ddim dweud ein bod yn haeddu dim o’r gêm.”
Fe ddywedodd wrth Radio Wales y byddai angen i’r perchnogion fuddsoddi arian os oedd Abertawe am ddianc rhag y gwymp unwaith eto.
“Fe fydd rhaid i ni gael cwpwl o chwaraewyr gwirioneddol dda,” meddai.