Abertawe 0–4 Man City                                                                   

Colli fu hanes Abertawe wrth i dîm gorau Uwch Gynghrair Lloegr, Man City, ymweld â’r Liberty nos Fercher.

Mae’r Elyrch yn aros ar waelod y tabl ar ôl colli’n drwm o bedair gôl i ddim yn erbyn yr tîm ar y brig.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 27 munud gyda sodliad deheuig David Silva o groesiad Bernardo Silva.

Dyblodd Kevin De Bruyne y fantais saith munud yn ddiweddarach gyda chic rydd a oedd yn hanner ergyd hanner croesiad.

Dawnsiodd Silva i mewn i’r cwrt cosbi i sgorio ei ail ef a thrydedd ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Sergio Aguero gwblhau’r sgorio bum munud o’r diwedd gyda gôl unigol dda a haeddiannol.

Mae’r canlyniad yn cadw Man City ar y brig ac Abertawe ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng, Mesa, Carroll (Abraham 45’), Ayew, Dyer (Narsingh 65’), Bony (Fer 74’)

.

Man City

Tîm: Ederson, Danilo, Otamendi, Mangala, Delph (Zinchenko 73’), De Bruyne (Gundogan 77’), Fernandinho (Toure 58’), Silva, Bernardo Silva, Aguero, Sterling

Goliau: Silva 27’, 52’, De Bruyne 34’, Aguero 85’

.

Torf: 20,870