Fe fydd Leon Britton yn gobeithio am noson i’w chofio heno wrth iddo ddathlu pymtheg mlynedd ers iddo ymuno â’r Elyrch am y tro cyntaf.
Mae’r Elyrch yn croesawu Manchester City i Stadiwm Liberty (7.45pm) a does dim cyhoeddiad eto a fydd e ar y cae neu wrth ymyl y prif hyfforddwr Paul Clement ar yr ystlys.
Fe symudodd Britton i Gymru ar Ragfyr 12, 2002 a chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn Caerwysg ddeuddydd yn ddiweddarach.
Ar y pryd, roedd yr Elyrch yn Nhrydedd Adran y Gynghrair Bêl-droed ac ers hynny, mae’r cyn-gapten wedi chwarae ym mhob adran o’r gynghrair yng nghrys Abertawe.
Wrth nodi’r achlysur, dywedodd Paul Clement ei bod hi’n “beth prin iawn yn yr oes fodern” i chwaraewr bara pymtheg mlynedd.
“Mae deng mlynedd yn beth prin ond pymtheg…”
Er iddo symud am gyfnod i Sheffield United, mae Paul Clement o’r farn bod modd ei ystyried yn un o fawrion y clwb.
“Ddylai hynny ddim tynnu unrhyw beth oddi ar yr hyn mae e wedi ei wneud dros y clwb hwn, o’r lefel isaf yr holl ffordd i fyny i’r saith mlynedd yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae e wedi bod yn was da a ffyddlon i’r clwb ac mae’n dal i fynd. Dyw’r cyfan ddim ar ben eto.”
Dal i ymarfer
Ac yntau bellach yn 35 oed, mae Leon Britton yn ymarfer llai y dyddiau hyn ond mae’n dal i fod yn rhan ganolog o’r garfan.
“Dyna’r broblem. Dyw ei gorff e ddim fel yr oedd bymtheg mlynedd yn ôl,” meddai Paul Clement, “a dyna’r cyfyng gyngor sydd gyda fi.
“Mae’n dal yn chwaraewr gwych ond y broblem yw eich bod chi’n ei ddewis e ac fe allai dorri i lawr ac wedyn dydych chi ddim yn cael cysondeb yn y tîm.
“Mae’n dal i ymarfer ac yn gwneud gwaith da iawn yn ei swydd newydd yn is-hyfforddwr.
Anafiadau
Mae amheuon a fydd yr asgellwr Wayne Routledge yn holliach ar ôl cael ei anafu yn y fuddugoliaeth o 1-0 dros West Brom ddydd Sadwrn.
Ond mae’r amddiffynnwr canol Federico Fernandez yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn marwolaeth ei dad ac ar ôl bod ar y fainc ddydd Sadwrn.
Y newyddion da i’r Elyrch, er gwaetha’r holl sêr yn nhîm Man City, yw fod y capten Vincent Kompany allan ag anaf.
Mae’n ymuno â rhestr hir o amddiffynwyr canol sydd wedi’u hanafu – rhestr sy’n cynnwys John Stones a Benjamin Mendy.
Bygythiad
Ond fe fydd y bygythiad o du Man City ym mlaen y cae, ac mae disgwyl i Sergio Aguero gael ei gynnwys ynghyd â David Silva.
Dim ond unwaith mae Man City wedi colli yn erbyn Abertawe mewn 15 o gemau rhwng y ddau dîm ym mhob cystadleuaeth – a’r fuddugoliaeth honno i’r Elyrch ym mis Mawrth 2012.
Ond mae’r Elyrch yn mynd am drydedd buddugoliaeth gartref o’r bron, gan gadw llechen lân yn y ddwy gêm flaenorol.
Wilfried Bony
Fe fydd Wilfried Bony yn herio’i hen glwb, ac mae Paul Clement wedi dweud bod ei barodrwydd i berfformio “oddi ar y raddfa”.
Symudodd yr ymosodwr o Abertawe i Man City ym mis Ionawr 2015, ond fe gafodd e gyfnod rhwystredig yno cyn mynd ar fenthyg i Stoke.
Sgoriodd ei gôl gyntaf ers dychwelyd i Abertawe ddydd Sadwrn ac fe fydd Paul Clement yn gobeithio am ragor os oes gan yr Elyrch lygedyn o obaith o gael o leiaf un pwynt i’w helpu i godi oddi ar waelod y tabl.