Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe wedi darogan y gallai amddiffyn yn erbyn y chwarae gosod fod yn allweddol os yw ei dîm am gael o leiaf un pwynt yn erbyn Manchester City nos Fercher.

Maen nhw’n dod i Stadiwm Liberty gyda mantais o 11 o bwyntiau dros eu cymdogion Man U yn nhabl yr Uwch Gynghrair, ac mae rhai arbenigwyr eisoes yn dweud bod y ras am y tlws ar ben.

Mae’r Elyrch, fodd bynnag, yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl ar ôl sgorio dim ond 12 o bwyntiau yn eu 16 gêm gyntaf.

Mae prif hyfforddwr yr Elyrch yn sylweddoli maint y dasg sy’n wynebu ei amddiffynwyr ar y noson i atal tîm sy’n sgorio tair gôl ar gyfartaledd ym mhob gêm y tymor hwn.

‘Angen gwella’

Ac fe fydd angen gwella ar y perfformiad diwethaf o safbwynt y chwarae gosod, er eu bod nhw wedi ennill o 1-0 yn erbyn West Brom ddydd Sadwrn.

Mae Paul Clement wedi hen arfer erbyn hyn â pherfformiadau anghyson ei dîm ond y tymor diwethaf, fe allai’r Elyrch ddibynnu i raddau helaeth ar giciau rhydd Gylfi Sigurdsson i’w hachub ar adegau.

Ond ers i’r ymosodwr fynd i Everton dros yr haf, mae nifer o’r chwaraewyr wedi bod yn rhannu’r cyfrifoldeb ac roedd perfformiad nifer o’r chwaraewyr o ran y chwarae gosod ddydd Sadwrn yn ddigon siomedig.

Dywedodd: “Ro’n i’n meddwl bod ein corneli ni’n well ond fe gawson ni gwpwl o giciau rhydd canolog y bydden ni wedi disgwyl gwneud yn well gyda nhw – doedd rhai ddim hyd yn oed yn agos at fynd dros y wal.

“Dw i’n credu bod un ohonyn nhw wedi arwain hyd yn oed at West Brom yn gwrthymosod ar adeg mor bwysig yn y gêm felly mae’n rhaid i ni wneud yn well [yn erbyn Man City].”

Amddiffyn

Ond mae Paul Clement o hyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith mai dim ond Man City a Chelsea sydd wedi amddiffyn yn well o’r chwarae gosod na’r Elyrch y tymor hwn.

“Mae’n bwysig nodi pa mor dda ry’n ni’n gwneud wrth amddiffyn yn erbyn chwarae gosod oherwydd ar ôl dim ond llond dwrn o gemau, roedden ni’n cael ein beirniadu am amddiffyn mewn parthau ac roedd awgrym y dylen ni fod yn newid i amddiffyn fesul dyn.

“Ond dyma ni bron iawn hanner ffordd drwy’r tymor a bron i flwyddyn ers i fi gyrraedd, ry’n ni wedi ildio dim ond dwy gôl  o chwarae gosod – fe welais i mai dim ond Manchester City a Chelsea sydd wedi ildio llai.

“Mae’r chwaraewyr sy’n cymryd y chwarae gosod yn ymarfer ac mae angen i’r chwaraewyr gadw at yr hyn maen nhw’n ei wneud ar y cae ymarfer a rhoi hynny ar waith yn ystod y gemau.”