Casnewydd 3–3 Carlisle                                                                   

Rhannodd Casnewydd a Carlisle y pwyntiau wrth i’r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn gêm gyffrous yn yr Ail Adran ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Roedd chwe gôl i gyd, pump o’r rheiny mewn ail hanner cyffrous, ond bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd.

Agorodd Shawn McCoulsky’r sgorio i’r tîm cartref ddau funud cyn yr egwyl, yn codi’r bêl dros Jack Bonham yn y gôl.

Manteisiodd Luke Joyce ar amddiffyn gwael i unioni’r sgôr o fewn munud o’r ail ddechrau ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen bum munud yn ddiweddarach diolch i ergyd wych Kelvin Etuhu.

Unionodd Matthew Dolan bethau unwaith eto gyda chic rydd gelfydd cyn i Tom Miller adfer mantais Carlisle gyda pheniad toc wedi’r awr.

Ond yn ôl y daeth Casnewydd drachefn gyda Dolan yn cipio pwynt i’r Alltudion gyda chic rydd arall ugain munud o’r diwedd.

Mae Casnewydd yn llithro i’r ddeuddegfed safle yn nhhabl yr Ail Adran er gwaethaf y pwynt.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Pipe (Reynolds 54’), Dolan, Labadie, Wilmott, Butler, McCoulsky (Amond 83’), Nouble

Goliau: McCoulsky 43’, Dolan 56’, 69’

Cardiau Melyn: Nouble 65’, Wilmott 90’

.

Carlisle

Tîm: Bonham, Brown (Hope 65’), Parkes, Hill, Miller, Lambe (O’Sullivan 86’), Joyce, Liddle, Jones, Etuhu, Bennett (Miller 82’)

Goliau: Joyce 46’, Etuhu 52’, Miller 62’

.

Torf: 3,176