Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi troi at yr Uchel Lys yn dilyn helynt ynghylch ffioedd trosglwyddo sawl un o’u chwaraewyr.

Mae’r clwb yn honni eu bod nhw wedi talu gormod am dri chwaraewr – Gary Medel, John Brayford a Simon Moore – yn 2013.

Ymhlith y diffynyddion gwreiddiol roedd y cyn-reolwr Malky Mackay, y cyn-bennaeth recriwtio Iain Moody, y cyn-sgowt Thomas Johnson, cyn-chwaraewr anhysbys; a’r asiantiaid Carly Barnes a Michael Carney.

Ond does dim achos pellach yn erbyn Malky Mackay, Iain Moody na Michael Carney.

Mae disgwyl i drafodaethau ddechrau yn Llundain yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae’r pump yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.