Mae tîm pêl-droed Caernarfon drwodd i rownd 16 olaf Cwpan JD ar ôl curo’r Barri o 2-0 ar yr Oval.

Daeth gôl gynta’r gêm ar ôl pum munud drwy Jamie Breese.

Dyblodd tîm tre’r Cofis eu mantais gyda chwip o gic rydd gan Nathan Craig toc cyn hanner amser.

Roedd 1,150 o gefnogwyr yno’n gwylio’r gêm.

Canlyniadau’r rownd yn llawn:

Aberystwyth 4-0 Y Bala

Airbus UK 3-2 Goytre

Bangor 4-3 Cwmamman

Bwcle 0-1 Y Fflint

Caernarfon 2-0 Y Barri

Cei Connah 3-0 Cwmbrân

Cyffordd Llandudno 0-4 Penydarren

Llandudno 4-0 Gresffordd

Llanrhaeadr-ym-Mochnant 3-2 Derwyddon Cefn

Penybont 1-3 Met Caerdydd

Pontypridd 3-1 Hwlffordd

Porthmadog 7-2 Panteg

Prestatyn 0-3 Rhuthun

Rhydaman 2-3 Caerfyrddin

Y Drenewydd 2-0 Cegidfa

Y Seintiau Newydd 6-0 Penrhyncoch

Bydd yr enwau ar gyfer y rownd nesaf yn cael eu tynnu o’r het yn fyw ar Heno ar S4C nos Lun am 7 o’r gloch.