Mae cefnwr chwith tîm pêl-droed Abertawe, Martin Olsson wedi datgelu bod rhai o’r chwaraewyr wedi dangos eu rhwystredigaeth yn yr ystafell newid ar ôl colli o 2-1 yn Stoke brynhawn ddoe.

Roedd yr Elyrch ar y blaen ar ôl tair munud yn dilyn gôl Wilfried Bony, ond sgoriodd y Saeson ddwywaith yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r triphwynt sydd wedi anfon yr Elyrch i waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r prif hyfforddwr Paul Clement o dan gryn bwysau erbyn hyn ar ôl i’r Elyrch ennill un pwynt yn unig yn eu saith gêm diwethaf, ond y chwaraewyr sy’n bennaf gyfrifol am eu sefyllfa, yn ôl Martin Olsson.

“Fe ddaethon ni yma, roedden ni eisiau chwarae’n fwy ymosodol wrth symud ymlaen. Fe wnaethon ni hynny yn yr ugain munud agoriadol ond wnaethon ni ddim gwneud y pethau sylfaenol.

 

 

“Fe ddywedodd y rheolwr wrthon ni beth i’w wneud. Mae angen i ni wrando arno fe.

“Roedden ni’n gwybod y byddai pêl hir yn dod i mewn a bod angen i ni ddelio â hi ac wrth gwrs, gyda’r gôl gyntaf, fe ildion ni’r meddiant.

“Camgymeriadau syml, twp. Mae’n achosi rhwystredigaeth. Dw i ddim eisiau dweud hynny drosodd a thro.

“Nawr, mae’n bryd i ni styfnigo ac os oes angen tynnu sylw at rai o’r chwaraewyr, mae angen i chi dynnu sylw atyn nhw. Mae’n bryd i ni fod yn ddynion a brwydro ar y cae.”

Emosiwn

Dywedodd Martin Olsson fod nifer o’r chwaraewyr wedi dangos eu hemosiynau ar ôl y gêm, ond fod hynny’n beth positif.

 

“Roedd heddiw’n un o’r diwrnodau hynny pan ddaeth rhywfaint o rwystredigaeth allan yn yr ystafell newid.

“Wrth gwrs mae pethau’n cynhesu, ond mewn ffordd dda. Mae angen i ni i gyd ddihuno fel tîm ac mae angen i ni redeg dros ein gilydd, creu cyfleoedd yn ymosodol, amddiffyn fel diwedd y tymor diwethaf.

“Ond ry’n ni’n dîm ac ry’n ni’n cefnogi ein gilydd.”

Joe Allen

Fe fu Abertawe’n cwrso eu cyn-chwaraewr canol cae, Joe Allen ers cryn amser ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i’w ddenu’n ôl i Gymru hyd yn hyn.

Ar ôl y gêm ddoe, dywedodd y Cymro ei fod yn cydymdeimlo â’r tîm y mae’n ei gefnogi.

 

“Ydy, mae’n galed. Mae’n ddyddiau cynnar a dyw popeth ddim yn hollol anobeithiol.

“O fod yn wrthwynebydd yn chwarae yn eu herbyn nhw, dydyn nhw ddim yn dîm gwael, ddim o gwbl.

“Mae angen iddyn nhw gadw ati ac fel cefnogwr nawr, dw i’n gobeithio’u bod nhw’n gwneud hynny.

“Nhw yw fy nhîm i. Yn amlwg, dw i’n chwarae dros Stoke a dw i’n canolbwyntio ar berfformio i Stoke ond fel unrhyw gefnogwr pêl-droed, dw i’n cadw llygad ar y canlyniadau i weld sut maen nhw’n dod yn eu blaenau.

“Dw i ddim yn credu y bydd hynny byth yn newid.”