Manteisiodd tîm pêl-droed Wrecsam ar ddyn ychwanegol i guro Maidenhead o 2-0 ar y Cae Ras.

Rhwydodd Chris Holroyd a James Jennings i godi’r Cymry i’r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol.

Daeth y gôl gyntaf cyn yr egwyl wrth i Holroyd rwydo.

Ond collodd Maidenhead y chwaraewr canol cae Ryan Upward ar ôl awr am dacl flêr, ac fe ddaeth ail gôl y Cymry drwy Jennings.

Mae Sutton yn dal ar frig y tabl, ond mae gan Wrecsam yr un nifer o bwyntiau. Dim ond gwahaniaeth goliau sy’n eu gwahanu nhw.